Hafan Rhestru'r Newyddion Map Safle Digwyddiadau Polisi Cwcis Hygyrchedd Gwybodaeth

CYNGOR: Cliciwch neu cyffyrddwch â man sydd o ddiddordeb i ddarganfod mwy am yr atyniad hwnnw. Cliciwch neu cyffyrddwch eto i’w gau. I lwytho map arall neu leoliad arall, dewiswch gategori o’r ddewislen i ddangos y mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer y categori hwnnw.

Golygfa o'r awyr Blaenafon sy'n dangos prif atyniadau
Hangori Glanfa Gofilon dangos cychod i y doc

Glanfa Gofilon

Roedd Glanfa Gofilon yn arfer cysylltu Blaenafon â Chamlas Brycheiniog a’r Fenni ac yna â Chasnewydd a thu hwnt. Roedd angen camlesi er mwyn cludo cynnyrch diwydiannol trwm fel haearn crai, glo a chalchfaen. Agorwyd Glanfa Gofilon ym 1805 ac fe’i cynlluniwyd ochr yn ochr â thramffyrdd. Roedd camlesi a thramffyrdd mor bwysig i’w gilydd mai’r gwaith cyntaf a wnaed gan gwmni newydd Brecknock and Abergavenny Canal Company ym 1794 oedd adeiladu tramffordd.

Glanfa Llan-ffwyst sy'n dangos cychod hangori

Glanfa Llan-ffwyst

Cysylltai Glanfa Llan-ffwyst Flaenafon at weddill y byd trwy Gamlas Mynwy ac Aberhonddu. Roedd angen camlesi i gludo cynnyrch diwydiannol trwm fel haearn crai, glo a chalchfaen. Mae yna warws anferth yn Llan-ffwyst ar hyd y lanfa, a byddai’r warws wedi storio’r cynnyrch hyn. Cysylltwyd y lanfa gan inclein serth tuag at dramffordd Hill sy’n ymdroelli o amgylch Mynydd Blorens i Bwll-Du. Yma, mae’r dramffordd yn torri trwy’r mynydd at y gweithfeydd haearn ym Mlaenafon. Adeiladwyd inclein diweddarach dros y mynydd.

Glowyr yn y chwarel Tyla

Chwarel Tyla

Mae Chwarel Tyla yn chwarel galchfaen. Mae yna lawer o galchfaen crai yn ardal Blaenafon ac mae’n bwysig am fod calchfaen yn un o’r deunyddiau crai pwysicaf ar gyfer y diwydiant haearn. Oherwydd hyn agorwyd llawer o chwareli fel Tyla. Roedd chwareli Tyla yn rhai mawr a helaeth a dyma un o’r prif ffynonellau calchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon, er ei bod hefyd yn cyflenwi Ffwrn Garn Ddyrys. Defnyddiai dwnnel Pwll-Du i gludo’r defnyddiau. Roedd ar agor hyd nes y 1920au.

Llun o dramffordd Llanfihangel

Tramffordd Llanfihangel

I gychwyn, rhedai tramffordd Llanfihangel o Lan-ffwyst i Lanfihangel Crucornau. Ym 1818 cafodd ei hymestyn i Lanfa Gofilon ac i Rosllwyn. Roedd y derfynfa yng Ngofilon yn ymestyn cyn belled â iard y Capel. Datgelodd y cloddiadau yn y fan yma gledrau a thrawstiau sylfaen er, gan fod y Capel yn dod o gyfnod cynharach na’r dramffordd, nid ydym yn gwybod sut cawsai’r iard ei defnyddio. Oherwydd yr estyniadau hyn, roedd y dramffordd yn cysylltu at dramffyrdd eraill a redai o Rosllwyn i Langiwa, ac o Langiwa i Henffordd. Roedd hyn yn ffordd o gludo glo a chynnyrch eraill i Henffordd ac oddi yno.

Llun o dramffordd bryniau

Tramffordd Hill

Roedd Tramffordd Hill yn fath cynnar o reilffordd a thynnwyd y cerbydau gan geffylau. Fe’i adeiladwyd gan Thomas Hill i wella cysylltiadau cludiant ar gyfer y diwydiant. Adeiladwyd y dramffordd ym 1812, ac mae’n dangos yn glir y datblygiadau technolegol cynnar a’r newidiadau mewn cludiant. Roedd creu’r dramffordd yn sbardun i ddiwydiant Haearn Blaenafon ddod yn arweinwyr y byd, oherwydd sefydlwyd cysylltiad gyda Chamlas Brycheiniog a’r Fenni a nawr byddai’n bosib cludo haearn a chalchfaen o amgylch y Deyrnas Unedig a’r Byd. Roedd hefyd wedi agor cysylltiadau gyda’r ffwrn newydd yng Ngarn Ddyrys.

Gellir gweld y cwch cul sengl ar Camlas Brycheiniog a'r Fenni

Camlas Brycheiniog a’r Fenni

Adeiladwyd Camlas Brycheiniog a’r Fenni rhwng 1792 a 1812 i gludo glo, haearn, dur a deunydd crai eraill o amgylch y Deyrnas Unedig. Roedd y basn yn Llan-ffwyst yn derfynfa i dramffordd Hill, sef rheilffordd gynnar a ddeuai â chynnyrch o Flaenafon i’w cludo ar y camlesi. Roedd camlesi yn fath pwysig o gludiant diwydiannol yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Roedd y syniad o lwybrau camlas newydd yn sicr wedi dylanwadu ar y meistri haearn Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt, i adeiladu’r gwaith haearn ym Mlaenafon.

Chwarel Pwll-Du

Chwarel galchfaen yw Pwll-Du ac fe’i hagorwyd tua 1819 mewn ymateb i’r angen cynyddol am galchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon. Calchfaen yw un o’r deunyddiau crai pwysicaf ar gyfer y diwydiant haearn. Un o’r nodweddion pwysicaf ym Mhwll-Du yw lifft dŵr cytbwys, a godai wagenni’n llawn calchfaen o lawr y chwarel i’r dramffordd i’w cludo. Mae Chwarel Pwll-Du wedi’i chadw’n dda iawn ac felly mae’n Heneb Restredig.

Llun o Garn Ddyrys Forge

Ffwrn Garn Ddyrys

Adeiladwyd Ffwrn Garn Ddyrys gan Thomas Hill ac fe ddechreuodd gynhyrchu ym 1817 gan newid haearn crai yn haearn bwrw. Adeiladwyd tramffordd y cyfeirir ati fel “tramffordd Hill” tua’r un adeg, i gysylltu’r ffwrn at Aberhonddu a’r Fenni. Unwaith y cyrhaeddodd yr injan stêm Flaenafon ym 1854, ynyswyd Garn Ddyrys i raddau helaeth. Caeodd ym 1860, pan adeiladwyd ffwrn newydd y cyfeirir ato fel Ger-yr-efail, ym Mlaenafon. Erbyn hyn mae Garn Ddyrys yn Heneb Restredig, oherwydd, yn archeolegol, mae’n un o’r enghreifftiau mwyaf cyfan ar gadw o ffwrn o’r 19eg ganrif.

Golygfa o inclein Dyne dur

Inclein Dyne-Steel

Mae Inclein Dyne-Steel yn Heneb Restredig. Cafodd ei adeiladu ym 1850 gan Thomas Dyne-Steel ac roedd yn dramffordd inclein dwbwl a ddefnyddiai bŵer stêm. Cysylltai Waith Haearn Blaenafon â Ffwrn Garn Ddyrys, gan gymryd lle tramffordd ceffylau, trwy Dwnnel Pwll-Du, a oedd ar un adeg yn rhan o’r siwrnai. Roedd y llwybr newydd hwn yn ffordd gyflymach a rhatach o gludo, gan alluogi mwy o dwf yn y diwydiant. Gallwch weld y nodwedd hon fel rhan o’r Llwybr Mynydd Haearn.

Gellir gweld awgrymiadau Canada ar draws y dirwedd hesb

Tomenni Canada

Yn y 1940au, trwy gydol yr Ail Ryfel Byd, dechreuwyd gweithio glo brig yn ardal Blaenafon; gallwch weld y tomenni rwbel hwnt ac yma ar y dirwedd. Erbyn 1944, roedd 5% o’r holl lo ar gyfer ymdrech y rhyfel yn cael ei gynhyrchu ym Mlaenafon. Cynorthwywyd datblygiad cynnar glo brig, sef techneg na ddefnyddiwyd yn y Deyrnas Unedig cyn y rhyfel, gan filwyr o Ganada a oedd wedi’u lleoli ym Mhrydain, gan ddefnyddio’u harbenigedd a’u hoffer; a dyna darddiad yr enw ar y tomenni rwbel “Tomenni Canada”.

Darlun o'r pwll y ceidwad gan y banciau glaswelltog

Pwll Pen-ffordd-goch

Mae Pwll Pen-ffordd-goch wedi’i leoli ger Pwll-Du, ar y bryn uwchlaw Blaenafon. Adeiladwyd y pwll yn gynnar yn y 19eg ganrif i ddarparu dŵr ar gyfer Ffwrn Garn Ddyrys. Enw arall arno yw Pwll y Ciper gan fod ciper gweunydd y grugieir yn byw mewn bwthyn gerllaw. Heddiw mae’n harddfan leol ac yn lle delfrydol i ddechrau taith ar Fynydd Blorens.

Gellir gweld yn y pellter o Garn Lakes, trên ar draws y Llyn

Llynnoedd Garn

Roedd Llynnoedd Garn yn arfer bod yn ardal a orchuddiwyd â thomenni rwbel a hen weithfeydd glo, ond yn dilyn cynllun adfer tir sylweddol, agorwyd yr ardal yn swyddogol yn 1997 fel ardal hardd i drigolion ac ymwelwyr. Mae’n ymestyn ar draws 40 hectar a gyda’i llynnoedd a’i glaswelltiroedd mae’n darparu cynefin amrywiol a thir bridio i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Cymaint felly ei bod bellach wedi cael ei dynodi’n Warchodfa Natur Leol.

Un simnai yn weladwy ar y pyllau Hill

Pyllau Hill

Pyllau Hill yw’r pyllau a suddwyd yn y 1830au gan Thomas Hill a’i Fab i echdynnu mwyn haearn a glo ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon. Roedd yna gysylltiad tramffordd uniongyrchol rhwng Pyllau Hill a Gwaith Haearn Blaenafon i gludo deunydd crai. Roedd y Pwll ar waith o 1844 i 1893. Heddiw ym Mhyllau Hill fe allwch weld y simnai sydd wedi’i chadw, a oedd yn arfer gwasanaethu injan stêm droellog â siafftiau dwbwl.

Gyrrwr trên yn gweithredu y trên rheilffordd Treftadaeth Blaenafon

Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon Railway

Yn wreiddiol, adeiladwyd y rheilffordd o Frynmawr i Flaenafon ym 1866 i gludo glo i’r Canolbarth, ac ym 1878 cafodd ei hymestyn i Abersychan a Thalywaun. Caewyd y rheilffordd i deithwyr ym 1941 ac i nwyddau ym 1964, er bod yr adran o Flaenafon i Bont-y-pŵl yn cael ei defnyddio ar gyfer glo o Big Pit a phyllau glo lleol eraill hyd nes 1980. Heddiw gallwch ymweld â’r rheilffordd a chael reid ar yr injan stêm yn Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon.

Enghraifft o dwnnel Du Pwll

Twnnel Pwll Du

Chwarel galchfaen yw Pwll-Du ac fe’i hagorwyd tua 1819 mewn ymateb i’r angen cynyddol am galchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon. Calchfaen yw un o’r deunyddiau crai pwysicaf ar gyfer y diwydiant haearn. Un o’r nodweddion pwysicaf ym Mhwll-Du yw lifft dŵr cytbwys, a godai wagenni’n llawn calchfaen o lawr y chwarel i’r dramffordd i’w cludo. Mae Chwarel Pwll-Du wedi’i chadw’n dda iawn ac felly mae’n Heneb Restredig.

Llwybrau cerdded pren yn tomen Coety Uchaf

Tomen Coety

Crëwyd Tomen Coety, sef tomen o wastraff cloddio, pan yr oedd Big Pit a’i rhagflaenydd Pwll Coety ar waith. Mwynglawdd haearn oedd Pwll Coety yn bennaf. Ar un adeg, roedd tomenni fel y rhain yn olygfa gyfarwydd mewn cymunedau diwydiannol. Gwaredwyd craig a siâl gwastraff o’r broses fwyngloddio ar yr arwyneb, gan newid y dirwedd a’r amgylchedd am byth. Wedi i’r tipio ddod i ben, fe ddechreuodd natur adfer y domen a’r ardal o’i hamgylch yn raddol, a bellach mae’n gyfoeth o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

Tai yng ngwaith haearn Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenafon yw nodwedd bwysicaf y Safle Treftadaeth Byd ac mae bellach yn Heneb Restredig. Agorwyd y gwaith haearn ym 1789 gan y meistri haearn Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt. Yn gynnar yn y 19eg ganrif roedd yn un o gynhyrchwyr haearn pwysicaf y byd. Heddiw, dyma’r gyfres orau yn y byd o adeiladau ffwrnais chwyth o’r cyfnod ac o’i fath sydd ar gadw, ac mae’n un o’r cofebion pwysicaf i oroesi o gyfnod cynnar y chwyldro diwydiannol

Barn am y pwll mawr a'r adeiladau cyfagos

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Agorodd Big Pit ym 1860 ac yma roedden nhw’n cloddio am lo. Glo oedd gwaed y chwyldro diwydiannol. Cafodd ei ddefnyddio i wneud haearn a dur ac fel tanwydd i’r llongau, y trenau ac injans stêm. Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif, roedd Big Pit yn un o nifer o byllau glo ar waith ym Mlaenafon, a gyda’i gilydd roedden nhw’n cynhyrchu digon o lo i sicrhau mai De Cymru oedd yn arwain y byd o ran cynhyrchu glo! Pan gaewyd y pwll ym 1980 hwn oedd y pwll glo hynaf ar waith yn Ne Cymru. Heddiw, fel Amgueddfa Lofaol Cymru, mae’n enwog am ei amgueddfa a’i daith o dan y ddaear sy’n gyfle i chi gael blas ar fywyd ar y wyneb glo!

Dŵr sy'n llifo dan bont Aaron Brute

Pont a Lefel Arron Brute

Yn ddiweddar, adferwyd Pont Arron Brute i’w hysblander gwreiddiol. Mae’r Heneb Restredig hwn yn un o’r enghreifftiau cynharaf yn y byd o bont haearn bwrw, ac fe’i hadeiladwyd ym 1812. Cyfeirir ati fel ‘Pont Arron Brute’, am mai Arron Brute oedd rheolwr y pwll lleol pan adeiladwyd y bont, ac roedd yn ddyn dylanwadol. Gallwch weld ei fwthyn ger y bont ac mae rhywrai’n dal i fyw ynddo heddiw.

Doncasters gellir gweld gwaith dur yn y pellter

Doncasters

Yn wreiddiol, sylfaenwyd Doncasters Group Ltd ym 1778, pan sefydlodd Daniel Doncaster weithrediad yn Sheffield, Lloegr i ddefnyddio’r broses grwsibl o wneuthurio dur i wneud offer llaw. Bellach dyma un o’r cwmnïau gweithgynhyrchu diwydiannol sydd wedi gweithredu’n barhaus am y cyfnod hiraf yn y byd. Sefydlwyd Doncasters Blaenafon yn y 1950au ac mae’n dal i fod yn safle diwydiannol actif yn Ger-yr-efail. Mae’n cynhyrchu cylchoedd gyredig, casins, llafnau a disgiau ar gyfer y diwydiant awyrofod, tyrbinau nwy diwydiannol a diwydiannau peirianneg arbenigol.

Tai yn Forge Row

Farteg

Agorwyd Gwaith Haearn Farteg yn gynnar yn y 19eg Ganrif ar dir wedi’i osod gan Thomas Hill a Thomas Hopkins. Adeiladwyd inclein isaf Farteg tua 1803 i gludo tramiau o haearn crai o waith haearn Farteg i Ffwrn Cwmafon. Yna cawsai ei drosglwyddo at Gamlas Mynwy ac Aberhonddu i’w gludo o amgylch y Deyrnas Unedig a thramor. Agorodd pwll glo Farteg ym 1860 fel pwll glo a mwynglawdd haearn ac ym 1861 estynnwyd y llinell dramiau hefyd.

Lluniau hen injan rhes

Stack Square ac Engine Row

Mae Stack Square ac Engine Row yn gyfres o fythynnod bach o gerrig a adeiladwyd yn y 1780au i gartrefu’r gweithwyr ffwrnais medrus o Waith Haearn Blaenafon. Byddai’r tai wedi annog mudwyr medrus i ddod i weithio i’r Gwaith Haearn newydd; pobl fel Timothy McCarthy. Roedd y sgwâr yn cynnwys tŷ’r rheolwr, siop y cwmni a swyddfa. Heddiw, maen nhw’n Henebion Rhestredig ac wedi cael eu hadfer gan CADW a gall ymwelwyr gerdded o’u cwmpas. Yn 2007/8 dyma ble ffilmiwyd y gyfres deledu boblogaidd Coal House ar gyfer y BBC.