Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru yw’r atynfa fwyaf poblogaidd o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Mae’r amgueddfa yn seiliedig ar hen Bwll Glo Pwll Mawr, a suddwyd tua 1860 ac a gaeodd yn 1980. Agorodd y safle fel amgueddfa yn 1983 ac mae nawr yn adnabyddus ar draws y byd, yn arbennig ar ôl ennill Gwobr Gulbenkian am amgueddfa’r flwyddyn yn 2005.
Mae ymweliad â Phwll Mawr yn cynnwys disgyniad 300 troedfedd (90m) i’r hen bwll, ble bydd cyn-löwr yn mynd â chi ar daith gyfareddol a phersonol yng ngolygfeydd, synau ac arogleuon y pwll i greu syniad o sut beth oedd gwaith yn y pwll glo.
Ar yr wyneb mae yna gyflwyniad clyweledol cyffrous 20 munud yn disgrifio llafur dyddiol y glowyr a’r newidiadau mewn gweithfeydd glo dros amser.
Mae’r amgueddfa hefyd yn cynnwys adeiladau hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo gan gynnwys gefail, stablau, caban bwyd glowyr, ystordy ffrwydron a chwt halio. Efallai mai’r adeilad mwyaf diddorol yw’r Baddonau a dderbyniodd bleidlais fel trysor cenedlaethol gorau Cymru mewn rhaglen deledu ar y BBC yn 2007. Gallwch weld y cawodydd a’r ystafelloedd cypyrddau, ynghyd â chreiriau ac arddangosfeydd sy’n galluogi dealltwriaeth o fywyd pob dydd glöwr
Fel rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru mae mynediad i Pwll Mawr am ddim. Pwll Mawr yw amgueddfa lofaol fwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ac mae’n cynnig diwrnod difyr ac addysgiadol i bawb.
Tâl parcio o £3 (parcio bysiau am ddim)