Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth

Amgueddfa Gymunedol Blaenafon

Amgueddfa Gymunedol Blaenafon
  • Lleoliad:Blaenavon
  • Math:Amgueddfa

Wedi’i lleoli yn ysblander Neuadd y Gweithwyr ac o dan reolaeth tîm o wirfoddolwyr cyfeillgar, mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol falch Blaenafon a maes glo’r de.

  • Difyrrwch, Chwaraeon a Hamdden
  • Eglwysi a Chapeli
  • Corau a Cherddoriaeth
  • Undebau Llafur
  • Cymdeithasau Cyfeillgar
  • Siopau a Busnesau
  • Arwyr Rhyfel Lleol
  • Ysgolion Lleol

Mae gan yr amgueddfa hefyd gasgliad yn ymwneud â theulu Kennard, a fu’n Gyfarwyddwyr Cwmni Haearn a Dur Blaenafon yn y 19eg ganrif. Roedd aelodau’r teulu’n ffigyrau dylanwadol yn niwydiannau haearn Prydain Fawr a chyfandir Ewrop.

Hefyd i’w gweld mae meddiannau personol y nofelydd enwog Alexander Cordell (1914-1997), awdur y clasur rhyngwladol Rape of the Fair Country (1959).

Mae gan yr amgueddfa archif hanes teulu a hanes lleol helaeth. Gellir trefnu ymchwil os roddir cyfraniad.  Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal sesiynau hanes teulu wythnosol AM DDIM ar y cyd gyda Chanolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon (Dydd Iau, 10am-1pm).

Gellir trefnu agor y tu fas i oriau arferol, yn ddibynnol ar a oes gwirfoddolwyr ar gael.

  • Mynedfa i’r Anabl:Ie
  • Addas i Ymweliadau Addysgol:Ie
  • Addas i Grwpiau:Ie

    Rydym yn gallu derbyn grwpiau gydag ychydig o gynllunio ymlaen llaw, i dros 10 o bobl.

  • Addas i Deuluoedd:Ie
Manylion Cyswllt
Oriau Agor
  • Llun10am-4pm
  • Mawrth10am-4pm
  • MercherAr gau
  • Iau10am-4pm
  • Gwener10am-4pm
  • Sadwrn10am-1pm
  • SulAr gau
Prisio
  • Oedolion:£2.00