Datblygodd Heol Lydan, prif ganolfan masnachol Blaenafon, yng nghanol y 19eg ganrif er mwyn cefnogi anghenion poblogaeth gynyddol. Yn ystod oes Victoria roedd y stryd yn llawn busnesau llwyddiannus a’r dref yn llawn prysurdeb. Erbyn 1901 roedd dros ddau gant o adeiladau masnachol ym Mlaenafon, gan gynnwys dwsinau o dafarndai.
Arweiniodd dirywiad economaidd yr 20fed ganrif at gau nifer o siopau a busnesau. Serch hynny mae Heol Lydan wedi ei hadnewyddu ac mae unwaith eto’n stryd ddeniadol ar gyfer siopa. Mae yna siop grefftau a siopau llyfrau ynghyd â siopau bwyd unigryw fel y Blaenafon Cheddar Company arobryn. Hefyd mae yna nifer o wasanaethau traddodiadol, gan gynnwys cigydd, siop groser a siop bapurau yn ogystal â nifer o lefydd i fwyta neu yfed.
Mae treftadaeth y dref yn amlwg yn y nifer o adeiladau cyhoeddus ysblennydd, gan gynnwys Neuadd y Gweithwyr ( a adeiladwyd gan weithwyr y dref), Llyfrgell Blaenafon a nifer o eglwysi a chapeli a oedd oll yn rhan bwysig o fywyd y dref. Gallwch ddysgu mwy am hanes y Dref Treftadaeth trwy godi taflen taith gerdded o Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon er mwyn mynd o gwmpas y dref arbennig hon.