Gan fynd heibio Llynnoedd y Garn yn eu gogoniant, mae Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon yn teithio drwy Dirwedd Ddiwydiannol Fawreddog Blaenafon, a hynny ar uchder uchaf unrhyw reilffordd cadw safonol yng Nghymru a Lloegr.
Mae pawb yn mwynhau'r Rheilffordd Dreftadaeth. Yn ogystal â meddu ar nifer o drenau disel a stêm, mae ystod eang o ddigwyddiadau sy'n addas i deuluoedd yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn. Uchafbwynt y calendr yw'r gwasanaeth 'Siôn Corn” arbennig' a gynhelir ym mis Rhagfyr. Mae’n cludo teuluoedd ar daith trên i Ogof Siôn Corn, yn Nhafarn 'Y Whistle'.
Mae'r rheilffordd wedi cael ei chynnal a'i cadw'n dda diolch i ymdrechion y selogion rheilffordd ymroddedig. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r rheilffordd gan fod y trac wedi ei agor i Orsaf Lefel Uchel Blaenafon ym mis Mai 2010, felly'n fwy na dyblu hyd y trac, a bwriedir agor y trac i Bwll Mawr yn 2011. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn rhedeg y Siop Rheilffordd yng nghanol Blaenafon. Mae copi o’r amserlen ar gael i’w lawr lwytho yma. Mae manylion y digwyddiadau bob amser ar eu gwefan.