Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth
Adfywio
Cadwraeth i greu yfory newydd
Regeneration
Adfywio
Cadwraeth i greu yfory newydd
Blaenavon World Heritage Site Sign (c) Visit Wales
Adfywio
Cadwraeth i greu yfory newydd
Blaenavon Town

Adfywio

Chart showing the decline in population from 1921 to 2001

Ni wnaeth economi Blaenafon adfer yn llwyr o gynnwrf y Dirwasgiad Mawr yn y 19020au a’r 1930au. Er gwaethaf amrywiol ymdrechion i arallgyfeirio economi’r dref yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, parhaodd tref Blaenafon – yn dal i ddibynnu’n bennaf ar y diwydiant glo – i ddirywio. Wrth i’r diwydiant glo ym Mhrydain barhau i grebachu ddiwedd yr ugeinfed ganrif, collodd miloedd o lowyr eu swyddi ledled y wlad.

Nid oedd Blaenafon, fel llawer o drefi’r meysydd glo, yn medru addasu i’r sefyllfa economaidd newidiol ac felly collodd ei phwrpas. Arweiniodd colli’r diwydiant at ostyngiad yn y boblogaeth ac erbyn diwedd y ganrif roedd poblogaeth cynyddol hen Blaenafon yn llai na 6,000 o bobl, llai na hanner yr hyn ydoedd rhyw wyth deg o flynyddoedd ynghynt. Roedd cyflwr y dref yn amlwg, tref noswylio gydag adeiladau wedi eu byrddio yn enghraifft o stereoteip negyddol tref ôl-ddiwydiannol.

Cafwyd ymdrechion o ddiwedd y 1960au i wyrdroi dirywiad y dref ond darniog oeddynt a dim ond llwyddiant byrdymor neu gyfyngedig a gafwyd. Yn bwysig, fodd bynnag, rhoddwyd amddiffyniad y wlad i Waith Haearn Blaenafon ym 1974 ac ail-agorodd y Pwll Mawr, glofa olaf Blaenafon, fel amgueddfa ym 1983. Gydag ailwerthusiad graddol o dreftadaeth ddiwydiannol Blaenafon, cafwyd ymgyrch seiliedig ar dreftadaeth i ddelio â phroblemau economaidd y dref. Cafwyd syniadau uchelgeisiol a chynigion trwy gydol y 1980au i wneud y mwyaf o dwristiaeth ond roedd diffyg hwb ac ymrwymiad yn golygu na wireddwyd y cynlluniau am nifer o flynyddoedd.

 

Prosiect Blaenafon

Ar ôl ad-drefnu Llywodraeth Leol ym 1996, addawodd yr awdurdod unedol newydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, wneud adfywio Blaenafon yn flaenoriaeth. Ym 1997, sefydlwyd Partneriaeth Blaenafon i ddarparu strategaeth gydgysylltiedig i wella ffawd y dref. Blaenoriaeth y Bartneriaeth oedd cael Statws Treftadaeth y Byd UNESCO ar gyfer y dref a daeth hyn yn wir ym mis Tachwedd 2000. Ni ddaeth Statws Treftadaeth y Byd ag unrhyw wobr ariannol uniongyrchol i’r ardal ond mae’r Bartneriaeth, a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, wedi defnyddio’r wobr arbennig hon fel catalydd i gael cyllid gan amrywiol gyrff cyhoeddus.

Twristiaeth

Ers 2000, blaenoriaeth allweddol fu datblygu Blaenafon yn atyniad hyfyw i dwristiaid. Buddsoddwyd miliynau o bunnau yn Safle Treftadaeth y Byd i wella’r hyn sydd ar gael i dwristiaid. Mae’r Pwll Mawr, y Gwaith Haearn a Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon wedi elwa o well dehongliad hanesyddol a datblygiad mewn blynyddoedd diweddar. Ac agorwyd dau atyniad newydd i dwristiaid, Amgueddfa Cordell a Threftadaeth Cymuned Blaenafon a Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn 2001 a 2008 yn eu tro, yn rhoi cipolwg manylach ar hanes y dref.

Adloniant Awyr Agored

The launch of the Iron Mountain Trail on 12 May 2005A greater appreciation of the picturesque and distinct landscape surrounding Blaenavon has been promoted since the 1990s with the opening of the Blaenavon Community Woodland, the Cycle Route and the completion of the Garn Lakes. Since 2000, however, a series of walks leaflets have been produced, including the flagship ‘Iron Mountain Trail’, which was launched in 2005. Ranger schemes have been implemented, allowing for local people to have a role in caring for the surrounding environment. Such initiatives have encouraged repeat visits to the town and have promoted healthy lifestyles. The Forgotten Landscapes Programme will also help conserve and interpret the countryside around the town.

The Blaenavon Industrial Landscape World Heritage Site logo has been integrated into the Gateways project, which aims to provide clear and attractive entrances into BlaenavonBrandio

Mae llunio brand unigryw a gwahanol wedi bod yn llwyddiant mawr. Defnyddiwyd logo Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, a ddyluniwyd gan 6721 ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd, yn llwyddiannus i farchnata Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r logo wedi ei integreiddio yn y prosiect Pyrth, sydd â’r nod o ddarparu mynedfeydd clir a deniadol i Flaenafon.

Adfywio Ffisegol

Ym 1997 canfu ymarfer ymgynghori cyhoeddus bod gan bobl Blaenafon gywilydd o ganol eu tref. Ychydig iawn oedd yna i ddenu ymwelwyr i’r dref annymunol, adfeiliedig ac roedd hefyd yn lle digalon i bobl leol fyw ynddo. Buddsoddwyd miliynau o bunnau yn ardaloedd masnachol a phreswyl Blaenafon mewn blynyddoedd diweddar, gan wella’n sylweddol olwg a chymeriad y dref. Dynodwyd canol y dref yn ardal gadwraeth ym 1984 ac felly roedd angen adfer adeiladau’r dref mewn modd sympathetig.

Mae hen adeiladau megis cyn Swyddfeydd Cyngor Blaenafon a hen Ysgol San Pedr wedi eu hadfer yn helaeth ac wedi cael defnydd newydd, yn gwasanaethu rôl addysgol fel Llyfrgell Blaenafon, a Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn eu tro. Mae grantiau gwella eiddo wedi caniatáu gwaith trwsio helaeth i gartrefi pobl, gan warchod neu adfer nodweddion hanesyddol megis ffenestri codi, simneiau, drysau, blychau llythyrau a rendrad traddodiadol. Mae tai newydd sydd wedi eu hadeiladu yn y dref ac o gwmpas wedi eu hadeiladu yn gyson â hyn, gan gyfuno â’r adeiladau hyn o gwmpas.

The derelict former St. Peter’s School (left) and its transformation into the World Heritage Centre (right)

Mae adfywio Heol Lydan, y brif stryd fasnachol, wedi dilyn patrwm tebyg. Mae ymchwil helaeth, gan gynnwys dadansoddi hen ffotograffau a defnyddio deunyddiau adeiladu traddodiadol, wedi galluogi gweddnewid Heol Lydan o’r ‘Ddinas Bren’ yn ganolfan siopa ffug-Fictoraidd braf. Mae’r cyngor lleol wedi cefnogi ymdrechion gan y sector preifat i ddod â bywiogrwydd newydd i’r drefn gan gynnwys Prosiect Booktown a lansiwyd yn 2003. Mae amrywiol siopau newydd wedi agor drws nesaf i’r busnesau hŷn mewn blynyddoedd diweddar, gan gynnwys siopau anrhegion, caffis a siop gaws.

Broad Street before and after extensive renewal

Er bod treftadaeth a chywirdeb hanesyddol wedi chwarae rôl arweiniol wrth lunio polisi adfywio, roedd gweithredu system draffig un ffordd yn 2007 yn ymateb i heriau’r oes fodern. Roedd Heol Lydan, a adeiladwyd yn nyddiau’r ceffyl a throl, yn anaddas i draffig dwy ffordd ac yn lle braidd yn beryglus i gerddwyr. Mae’r cynllun ffyrdd newydd, gan gynnwys palmentydd lletach a mesurau tawelu traffig, nawr yn darparu ardal ddiogelach a brafiach i gerddwyr.

Adfywio Diwylliannol

Mae gweithgareddau diwylliannol megis y Ffair y Gwanwyn, Diwrnod Treftadaeth y Byd a Ffair Wledig Llynnoedd Garn wedi bod yn llwyddiannus yn denu pobl i’r dref. Mae digwyddiadau o’r fath hefyd yn boblogaidd gyda’r gymuned leol. Mae cyfranogiad ac ymgynghoriad cymunedol wedi bod yn ganolog i lawer o’r mentrau adfywio ym Mlaenafon dros y degawd diwethaf. Mae llawer o’r grwpiau a’r cymdeithasau cymunedol lleol, megis Gild Merched y Dref a’r Côr Meibion, wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol. Ffurfiwyd grwpiau newydd megis ‘Dyfodol Blaenafon’. Mae Blaenafon hefyd wedi defnyddio’n llwyddiannus brosiectau cymdeithasol ac addysgol megis Cymunedau yn Gyntaf a Phrosiect RISE.

The Son et Lumiere at Blaenavon IronworksYn y degawd ers derbyn Statws Treftadaeth y Byd, mae tref Blaenafon wedi mwynhau cyfnod llwyddiannus o adfywio trefol ac amgylcheddol. Er y cafwyd rhai rhwystrau - ac mae rhai prosiectau wedi bod yn llai llwyddiannus nag eraill - mae’r dref yn ddi-os wedi gwella yn ystod blynyddoedd cynnar yr unfed ganrif ar hugain. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd yn datblygu Safle Treftadaeth y Byd a chynnal a chadw’r adeiladau hanesyddol. Mae tueddiadau economaidd byd-eang, cenedlaethol a lleol yn cynrychioli heriau anodd i fusnesau lleol ond mae tref Blaenafon, gyda chynnydd yn ei hyder, nawr mewn sefyllfa dda i wynebu’r dyfodol.