Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth

Stondinau ar gael ar gyfer Diwrnod Treftadaeth y Byd

Mae masnachwyr sydd eisiau bod yn rhan o Ddiwrnod Treftadaeth y Byd 2016 ym Mlaenafon yn cael eu hannog i archebu eu stondinau.

Mae'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2016 rhwng 11am a 12pm, fel arfer yn denu torfeydd o tua 10,000 o bobl yn rheolaidd.

Pris y stondinau yw £15 ac mae gan drefnwyr y digwyddiad ddiddordeb mewn masnachwyr sy'n cynnig celf a chrefft neu fwyd, a hefyd grwpiau cymunedol sydd am arddangos eu gweithgareddau.

Gellir archebu drwy glicio ar www.southwalesbusiness.co.uk neu drwy gysylltu â Liz Crowley ar 01633 648306.

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 19th Ebrill 2016