Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth

Gorymdaith Treftadaeth y Byd i ddathlu'r dref yn y gorffennol a'r presennol

World Heritage Parade to celebrate towns past and present

Mae trefnwyr Diwrnod Treftadaeth y Byd wedi cyfarfod â phlant ysgol lleol i gynllunio'r orymdaith eleni.

Cyfarfu Cyngor yr ysgol, Ysgol Treftadaeth Blaenafon gyda threfnwyr a chytunwyd ar y thema, 'Blaenafon ddoe a heddiw', i ddathlu gorffennol diwydiannol y dref, ond hefyd yr hyn sy'n gwneud y dref yn unigryw heddiw.

Cynhelir Diwrnod Treftadaeth y Byd ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin ac yn ogystal â'r orymdaith bydd ffair, rheilffordd stêm fechan, cerddoriaeth fyw, stondinau crefft a bydd y siopau yn y dref hefyd yn cymryd rhan gyda chynigion arbennig.

Bydd adloniant byw a gweithgareddau eraill yn cael eu cadarnhau yn fuan, ond yn y cyfamser i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ar 01633 648319.

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 21st Mawrth 2016