Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth

Mwy o lawer nag Amgueddfa yn unig…Blandalf, Spwcamons' a wynebau arswydus!

Yn ystod wythnos hanner tymor bydd Pwll Mawr, Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Genedlaethol yng Nghaerllion yn cynnal rhai digwyddiadau arbennig i deuluoedd gyda chymorth chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl'.

Bydd Blandalf y Bardd, yr adroddwr straeon sy'n byw yng nghymoedd hyfryd De Cymru, yn ymweld â Phwll Mawr ar 30 Hydref, 1 a 3 Tachwedd rhwng 12pm a 4pm. Fe gewch glywed am Dai Morris y glöwr, a hanesion eraill o Flaenafon sydd wedi'u cynnwys mewn chwedlau. Yn ogystal, mae cyfle i chi roi cynnig ar ysgrifennu hwiangerddi dwl a sonedau gwirion!

Yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, o 30 Hydref tan 3 Tachwedd, ymunwch â gweithdy i wneud antefixa o glai - teilsen Rufeinig gydag wyneb arswydus arni. Gallwch ychwanegu dafadennau, dannedd neu gyrn, beth bynnag fyddwch chi'n meddwl bydd yn cadw'r ysbrydion a'r coblynnod i ffwrdd! Mae'r gweithdai am 11am, 12pm, 2pm a 3pm, yn costio £2 y person a gellir eu harchebu trwy ffonio (029) 2057 3350. Tra eich bod chi yn yr Amgueddfa, ceisiwch ddal y 'Spwcemons' sy'n byw yn yr Amgueddfa gan ddefnyddio ein hap IPad arbennig.

Meddai llefarydd, “Mae Pwll Mawr ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru wrth eu bodd i gynnig ystod o weithgareddau yr hanner tymor hwn, yn ogystal ag ymweliad a phrofiad heb eu hail â’r amgueddfa, sy’n amlygu dwy amgueddfa wahanol iawn sydd yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni.”

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 24th Hydref 2017