Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth

Haf ar y Rheilffordd!

Yn ystod yr haf, bydd Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ochr yn ochr â'u diwrnodau agored arferol.

Roc, Rôl a Chwrw – Dydd Sadwrn 19 Awst

O 11am tan 9pm gyda cherddoriaeth fyw, barbeciw, Bar Symudol a hufen iâ.Yn cyflwyno Revival, yn ogystal â Taffy was a Thief, Broken Kama, Joe Kelly, Bryony Sier, Huw James, Ian Lynn Palmer, Howard Brook, Ellie Mccue, Ian Priday, Ruby Kelly, Pork Chop, Big Ben, Rae Goman, Rhys Powell a Cats Lost Its Tail.

15fed Rali Cerbydau Clasurol - Penwythnos Gŵyl y Banc ar ddydd Sul 27ain a dydd Llun 28ain o Awst

Dyma'r 15fed flwyddyn iddynt gynnal y digwyddiad hwn, felly beth am ymuno â nhw am ŵyl cerbydau clasurol gyda llawer o gerbydau yn cael eu harddangos, yn cynnwys hen fysiau a cherbydau milwrol. Bydd ystafelloedd y rheilffordd fechan ar agor gydag arddangosfeydd Scalextric a phethau cofiadwy'n gysylltiedig â cherbydau.

Fe fydd yna hefyd gyfle i deithio y tu ôl i’r injan stêm a disel clasurol mewn cerbydau clasurol o'r 1950au.

I gael mwy o wybodaeth ewch i www.pbrly.co.uk

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25th Gorffennaf 2017