Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth

Gweithdy Barddoniaeth gyda Patrick Jones yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Bydd Patrick Jones, un o ffigyrau llenyddol amlycaf Cymru, yn cynnal gweithdy barddoniaeth yn Big Pit ar ddydd Sadwrn 15 Medi, 11am-4pm.

 

Bydd Patrick yn rhoi cyngor i chi ar ysgrifennu - sut i ddatblygu’r monolog sydd wedi bod yn eich pen ers blynyddoedd, neu gân serch i rywun annwyl.

 

Diwrnod hwyliog, ymlaciol ac anffurfiol o rannu geiriau a straeon.

Y cwbl sydd ei angen yw’r agwedd gywir. Does dim angen unrhyw brofiad, dim ond awydd i ddysgu.

 

Tocynnau - £15 y person a rhaid archebu lle ymlaen llaw: 029 2057 3650.

 

(Cynhelir y gweithdy yn Saesneg).

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6th Medi 2018