Hafan Newyddion Rhestr Map o'r safle Digwyddiadau Polisi Cwci Hygyrchedd Gwybodaeth
Safleoedd Pwysig
Pyllau glo, chwareli, cludiant a diwydiant
Big Pit
Safleoedd Pwysig
Pyllau glo, chwareli, cludiant a diwydiant
Tapping the furnace at Blaenavon Ironworks (c) Cadw
Safleoedd Pwysig
Pyllau glo, chwareli, cludiant a diwydiant
Pontypool and Blaenavon Railway - train at the station

Safleoedd Pwysig

Cofrestrwyd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ei chofrestru'n Safle Treftadaeth y Byd gan Bwyllgor Treftadaeth Byd UNESCO ym mis Rhagfyr 2000 am y ddau reswm a ganlyn;

1) O ran deunydd, mae Tirlun Blaenafon yn enghraifft eithriadol o strwythur cymdeithasol ac economaidd diwydiant yn y 19eg ganrif.

2) Mae cydrannau Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon gyda'i gilydd yn ffurfio enghraifft ragorol ac hynod gyflawn o dirwedd ddiwydiannol y 19eg ganrif.

Mae Blaenafon yn cael ei chydnabod oherwydd dyma dirwedd sy'n rhoi cyd-destun i'r henebion, adeiladau a nodweddion lawer y maen eu cynnwys ac mae'n adrodd hanes y gymdeithas ddiwydiannol newydd a grëwyd drwy gynhyrchu haearn a glo, yn ystod blynyddoedd cychwynnol y Chwyldro Diwydiannol.

Dyma "dirwedd ddiwylliannol" sy’n dangos gwaith natur ac o law dyn, law yn llaw.

Nodweddion Safle Treftadaeth y Byd

1) Gwaith Haearn Blaenafon 1789

Y Gwaith Haearn oedd y mwyaf modern yn y byd pan agorwyd ef ym 1789 ac, ynghyd â gweithfeydd haearn eraill ar hyd ymyl maes glo De Cymru gwnaed naid cwantwm o ran cynhyrchu haearn a sefydlwyd De Cymru fel cynhyrchwr haearn y byd ar ddechrau'r 19eg ganrif. Y Gwaith Haearn erbyn hyn yw'r gorau ei gyflwr o'i gyfnod yn unrhyw le a chaiff ei gynnal a'i gadw'n dda gan Cadw. Y gwaith haearn yw ffocws STyB ac mae ffiniau STy B wedi eu llunio o amgylch ei gefnwlad.

2) Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru

Yn dyddio o ganol y 19eg ganrif mae Pwll Mawr yn bwll glo sydd wedi ei gadw mewn cyflwr da yn gyfan gwbl. Yr unig lofa gyflawn o'r diwydiant glo yng Nghymru, a'r mwyaf yn y byd tua 1900. Heddiw, gall ymwelwyr fwynhau taith o dan y ddaear gyda glowyr neu fanteisio ar agweddau eraill ar dreftadaeth fwyngloddio ar yr wyneb. Yn 2005 enillodd Pwll Mawr Wobr Amgueddfa'r Flwyddyn Gulbenkian DU. Dyma brif atyniad Safle Treftadaeth y Byd ac mae'n denu tua 165,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae'r safle yn eiddo Amgueddfa Cymru a hwythau sy'n ei rheoli.

3) Tref Blaenafon

Blaenafon yw'r "dref haearn" orau ei chyflwr yng Nghymru. Yma gellir gweld to llechi tai cerrig a brics y mwynwyr a'r glowyr a hefyd yr eglwysi a'r capeli gwreiddiol a Neuadd y Gweithwyr drawiadol (1894), sy'n dwyn tyst i draddodiad sosialaeth. Mae'r dref yn destun rhaglen adfywio sydd wedi dod ailgydio yn llawer o'i hatyniad hanesyddol wrth ysgytio etifeddiaeth o amddifadedd oherwydd methiant y diwydiannau trwm traddodiadol.

4) Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Y Ganolfan Treftadaeth y Byd, sydd wedi ei lleoli yn Ysgol San Pedr a gafodd ei hadfer yn ddiweddar ac a adeiladwyd gan Sarah Hopkins,  chwaer y Meistr Haearn, ym 1816, yw'r Ganolfan Dreftadaeth y Byd bwrpasol gyntaf yn y DU. Mae'r adeilad deniadol yn darparu Canolfan Groeso ac yn ganolbwynt ar gyfer mynediad deallusol a chorfforol i Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.

5) Y Dirwedd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Safle Treftadaeth y Byd yn ymestyn i 3,290 hectar; mae'n drawiadol, yn ymestyn dros grib mynydd Blorens i gamlas Mynwy a Brycheiniog yn Nyffryn Wysg, ger Y Fenni. Mae bron i 45% o dirwedd Treftadaeth y Byd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gan y dirwedd lawer o nodweddion naturiol ac o waith dyn, etifeddiaeth o echdynnu glo a haearn cynnar, chwareli, a rhwydwaith o dramffyrdd oedd yn cludo rhai o reilffyrdd haearn cynharaf y byd, sydd bellach wedi cael eu datblygu'n rhwydwaith o lwybrau cerdded. Mae gweddillion archeolegol Efail Garn Ddyrys yn clwydo'n gyffrous ar ochr y mynydd. Efail Garn Ddyrys drodd yr "haearn crai" o Waith Haearn Blaenafon yn arteffactau fel rheiliau haearn cynnar ac mae'n ymddangos yn nofel enwog Alexander Cordell, "Rape of the Fair Country".

6) Y Gamlas

Mae'r gamlas a oedd yn darparu llwybr allforio mewnforio ar gyfer cynhyrchu haearn a glo o 1817-1860 bellach yn atyniad mawr i'r sawl sy'n hoffi mordeithio. Mae gan y glanfeydd yng Ngofilon a Llan-ffwyst nifer o nodweddion hanesyddol pwysig sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif.

7) Pwll y Ceidwad

Cafodd y pwll hwn ar ben y mynydd ei greu ym 1817 i ddarparu cyflenwad diogel o ddŵr i Efail Garnddyrys islaw (tua 1818 1860) sydd bellach yn safle archeolegol gwych. Pwll y Ceidwad, mae'n siŵr, yw'r gorau a'r mwyaf amlwg o rwydwaith o byllau a ffrydiau yn y dirwedd a oedd yn hanfodol yn y broses gynhyrchu, i symud deunyddiau a chynhyrchu pŵer. Mae yna faes parcio da sy'n gwasanaethu fel man gwylio a phwynt mynediad i dirwedd arbennig "Llwybr y Mynydd Haearn".

8) Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon

Cyrhaeddodd y rheilffordd "stêm" Blaenafon ym 1856 a chaeodd efail Garn Ddyrys ar ochr arall y mynydd a oedd wedi ei wasanaethu gan Dramffordd y Hill i gymryd arteffactau gorffenedig i'r gamlas i'w hallforio. Adeiladwyd gefail fodern, newydd yn Forgeside islaw Pwll Mawr, ac mae dal i gynhyrchu heddiw er ei bod wedi newid yn fawr. Y rheilffordd oedd yr uchaf yn y DU ac mae'n dal i gael ei defnyddio heddiw (er braidd yn gyfyngedig) fel atyniad i ymwelwyr, a hynny dan ofal gwirfoddolwyr brwdfrydig.