Pethau i'ch Difyrru
Yma ar Safle Treftadaeth Byd Blaenafon, mae yna gasgliad anhygoel o atyniadau y gellir eu cyfuno am ddiwrnod i’r brenin (neu fwy na diwrnod os oes amser gennych). Dyma’r prif atyniadau ond cofiwch fod yna lawer o deithiau cerdded gwych ac ardaloedd i’w darganfod gyda thywysydd. Hefyd, ar hyn o bryd mae’r Amgueddfa Gymunedol yn symud i Neuadd y Gweithwyr, ac felly nid yw ar gael i ymwelwyr – fe fydd mwy o wybodaeth yn y man, unwaith y bydd ar fin ailagor.
Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon
Mae’r Ganolfan Treftadaeth mewn dwy hen ysgol ddiwydiannol o ddechrau’r 19eg Ganrif sydd wedi eu hadfer yn goeth a dyma’r lle perffaith i ddechrau ar eich ymweliad â Safle Treftadaeth Byd Blaenafon. Yn y Ganolfan mae yna enghraifft ryngweithiol o ystafell ysgol o Oes Fictoria ac arddangosfeydd ffilm ac amlgyfrwng sy’n rhoi cipolwg unigryw ar bwysigrwydd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ac yn cyflwyno atyniadau niferus yr ardal.
- Mynediad am ddim
- Man gollwng teithwyr i fysiau
- Hunan-dywys
- Caffi a siop rhoddion
- Canolfan Croeso
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae’r amgueddfa hon wedi ennill gwobrau niferus. Yma, gallwch ddarganfod treftadaeth lofaol gyfoethog Cymru a mynd ar daith o dan y ddaear dan arweiniad glöwr go iawn. Daw’r arddangosfeydd rhyngweithiol, sy’n cynnwys rhith-daith o amgylch pwll glo modern yn yr Orielau Glofaol amlgyfrwng, ac arddangosfa Baddon Pen Pwll, â hanes y pyllau glo yng Nghymru yn fyw, gan ddehongli bywyd glowyr gartref ac yn y gwaith.
- Mynediad am ddim
- Parcio am ddim i grwpiau
- Parcio i fysiau
- Hunan-dywys uwchben y ddaear – taith dywys dan ddaear
- Caffi a siop rhoddion
Gwaith Haearn Blaenafon
Un o’r gweithfeydd haearn gorau ar gadw o’r 18fed ganrif a welwch chi yn unrhyw le yn y byd. Dewch i weld bythynnod y gweithwyr, Stack Square; ewch i frig y Tŵr Dŵr Cytbwys, i’r man lle cludwyd yr haearn at y rhwydwaith o gamlesi; a mwynhewch y sioe golau a sain newydd yn y Tai Castio, sy’n ail-greu’r broses o gynhyrchu haearn.
- Mynediad am ddim
- Hunan-dywys
- Parcio i fysiau
- Siop rhoddion
Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon
Wrth galon y Safle Treftadaeth Byd, mae yna gyfuniad o drenau stêm a disel hanesyddol sy’n tywys ymwelwyr trwy’r dirwedd. Mae’r trên yn teithio i’r Big Pit ac i Dref Dreftadaeth Blaenafon.
- Parcio am ddim i fysiau
- Gostyngiad i grwpiau (pris i’w gadarnhau)
- Caffi a siop rhoddion
- Pasg – Medi dros y penwythnos yn unig
- Bob dydd Mercher yn ystod mis Awst
Bragdy Rhymney
Dewch ar daith dywys o amgylch y ganolfan fragu ble mae Cwrw Rhymney’n cael ei gynhyrchu. Cewch ymweld â’r arddangosfa sy’n adrodd hanes bragu a chwrw yng Nghymoedd De Cymru a blasu peth o’r cwrw wrth y bar, neu brynu potel o’r siop rhoddion i fynd adre’ gyda chi.
- Tâl mynediad £2.50
- Taith dywys rad ac am ddim
- Parcio i fysiau