Swyn treftadaeth neu ddiwylliant cyfoes? Mae ein gwesty Canol Casnewydd yng Nghymru yn daith fer ar droed o Eglwys Gadeiriol Casnewydd a’r castell hynafol, yn ogystal ag atyniadau diwylliannol gwych fel Amgueddfa Casnewydd a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.
Ewch i Gaerllion gyfagos i ymweld ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, y baddonau Rhufeinig a’r amffitheatr neu, mwynhewch y gerddi a’r ystafelloedd te yn Nhŷ Tredegar. Croeswch Bont Cludo Casnewydd i wylio adar yn Wlybtiroedd Casnewydd.
Mae’r ystafelloedd dwbl safonol i gyd yn cynnwys gwely maint brenin cyfforddus gyda phedair clustog a duvet cysurus. Gall gwesteion fwynhau amrywiaeth eang o ddewisiadau bwyd a diod o fewn cyrraedd hawdd i’r gwesty.
Ar gyfer Travelodge Casnewydd, Cymru: O’r Dwyrain a’r Gorllewin, gadewch y M4 wrth gyffordd 25a ac wrth y gylchfan gyntaf ewch ar yr allanfa cyntaf ar yr A4042 tuag at ganol y dref. Ar ôl rhyw 0.2 milltir ewch i’r chwith i Shaftsbury Street ac ewch syth ymlaen ar y gylchfan. Ar ôl rhyw 0.6 milltir, cymerwch y 3ydd allanfa ar y gylchfan i’r B4591 a chyfnewidfa Old Green. Ar ôl 0.1 milltir, wrth y gylchfan, ewch ar yr allanfa 1af i Bridge Street. Mae Travelodge 200 llath ar y chwith. I’r rheiny sy’n defnyddio SatNav, rydym yn argymell defnyddio’r Cod Post NP20 4AN.