Mae Llwybr y Mynydd Haearn yn daith gylchol 18km (12 milltir) sy’n eich tywys o amgylch Mynydd Blorens. Mae'r daith gerdded, sy'n cynnwys hen dramffyrdd a'r gamlas, yn cwmpasu cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol, sy'n rhoi ei hunaniaeth unigryw i Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.
Gellir trin y daith gerdded fel un llwybr sengl neu gellir ei rannu'n ddau. Mae taflenni teithiau cerdded ar wahân ar gyfer Llwybr y Mynydd Haearn Rhan Un a Llwybr y Mynydd Haearn Rhan Dau ar gael gan Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a gellir hefyd eu lawr lwytho o'r wefan. Mae'r ddwy ran yn cychwyn ym Maes Parcio Pwll y Ceidwad [SO 254 197].
Rhan Un – Taith gylchol gymedrol i egnïol 11.5km (7milltir) (tua: 4.5awr)
Rhan Dau – Taith gylchol gymedrol i egnïol 8km (5milltir) (tua 3.5awr)
Lawr lwythwch gopi o daflen Taith Gerdded Llwybr y Mynydd Haearn (Rhan Un) a Taith Gerdded Llwybr y Mynydd Haearn (Rhan Dau) yma.