Mae Venue 59 yn fwyty modern sy’n rhan o Westy’r Kings Head. Mae ein tair bwydlen yn cynnig detholiad o fwyd cartref, o ansawdd da ac wedi ei brisio’n rhesymol, mewn awyrgylch hamddenol, anffurfiol. Rydym yn gweini byrbrydau math bar caffi a chinio o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Mae ein bwydlen helaeth gyda’r nos yn cynnig stecen dda leol a phrydau bwyd a la carte gyda blas Ewropeaidd iddyn nhw. Rydym yn enwog am ein cinio dydd Sul gwych, ac argymhellir trefnu bwrdd ymlaen llaw.