Dogfennau
Mae amrywiol gyhoeddiadau a thaflenni ar gael i’w lawrlwytho. Mae rhai dogfennau, megis Dogfen Enwebu Safle Treftadaeth y Byd, allan o brint ac felly ond ar gael ar y fformat hwn.
Mae cyhoeddiadau eraill, megis taflenni teithiau cerdded, ar gael yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon am dâl bychan, neu gellir eu lawrlwytho am ddim o adran Cynllunio eich Ymweliad y wefan. Mae copïau o’n cylchlythyr lleol, Heritage News, ar gael i’w lawrlwytho yma.
Cynllun Rheoli (2011-2016)
Mae Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi cymeradwyo Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer y cyfnod 2011 hyd at 2016.
Crynodeb Gweithredol o’r Cynllun Rheoli Drafft (2011)
Mae’r Crynodeb Gweithredol yn esbonio arwyddocâd Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, llwyddiannau 2000-2010 ac yn crynhoi cynnwys y Cynllun Rheoli Drafft, 2011-2016.
Clawr blaen Dogfen Enwebu’r Cynllun Rheoli (1999)
Mae’r Ddogfen Enwebu yn rhoi disgrifiad manwl o nodweddion Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, sy’n gwneud Safle Treftadaeth y Byd mor bwysig yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a diwydiannol y byd.
Cynllun Rheoli Gwreiddiol (1999)
Mae Cynllun Rheoli gwreiddiol Safle Treftadaeth y Byd yn rhoi gweledigaeth fras o ansawdd, arwyddocâd, cyflwr a photensial y safle.
Tirweddau Angof
Gellir lawrlwytho dogfennau’n ymwneud â Chynllun Partneriaeth Tirweddau Angof yma.
Dogfennau Defnyddiol Eraill
Mae dogfennau ac astudiaethau defnyddiol eraill yn ymwneud â Safle Treftadaeth y Byd yn cynnwys:
Ar gyfer cyhoeddiadau, papurau a dogfennau arlein yn ymwneud â Safleoedd Treftadaeth y Byd, ewch i wefan Treftadaeth y Byd UNESCO.