Tirweddau Angof
Mae’r dirwedd yr un mor bwysig â threftadaeth adeiledig Blaenafon – eto i gyd, ar adegau, y teimlad oedd mai “Tirwedd Angof” ydoedd pan oedd pobl yn ystyried Safle Treftadaeth y Byd.
I fynd i’r afael â’r cydbwysedd, sefydlwyd Cynllun Tirweddau Angof i gyflawni cyfres o brosiectau, fyddai, ar y cyd, yn anelu i:
- Helpu i ddiogelu a hyrwyddo’r dirwedd dreftadaeth.
- Cynnwys ac ymgasglu pobl leol i gynyddu cyfranogiad y gymuned.
- Gwella mynediad i’r dirwedd dreftadaeth, ei mwynhad a’r ddealltwriaeth ohoni a darparu’r sgiliau sydd eu hagen ar bobl i’w gwarchod.
Nod y dull cyfannol hwn yw sicrhau dyfodol cynaliadwy a gweithredu fel y cam nesaf wrth greu ased treftadaeth o safon byd, y gall pawb gael mynediad iddo, ei fwynhau, a dysgu ohono.
‘Safle Treftadaeth y Byd a lleoliad ei dirwedd mewn cyflwr ardderchog o ran cadwraeth, un y gall pawb gael mynediad iddo, ei ddeall, ei fwynhau a gofalu amdano drwy bartneriaeth gymunedol gref a chyfranogiad. '
Llwyddodd y Cynllun i ddenu cyllid o £1.6 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd, gyda chyllid cyfatebol, wedi sicrhau bod cyllideb o £2.5 miliwn ar gael i weithredu’r rhaglen. Dechreuwyd ar y gwaith ym Mehefin 2010 a daeth i ben ym Mai 2015.
Manylion Llawn y Cynllun
Mae’r dogfennau canlynol yn dangos manylion llawn y cynllun ar gyfer prosiect Tirweddau Angof:
Adran 5
Cadwraeth a Newid yn yr Hinsawdd – Rhaglen A
Addysg, Hyfforddiant a Chynnwys y Cyhoedd - Rhaglen B
Rheoli Ymwelwyr a Dehongli - Rhaglen C
Gweithredu – Rhaglen D
Mae yna hefyd nifer o adroddiadau sy’n rhoi manylion ychwanegol ynghylch Prosiect Tirwedd Angof a’r ardal leol.