Rheoli'r Tir Comin
Oherwydd ei fod o waith dyn, mae'r cynefin rhostir angen sylw cyson i'w gynnal a'i gadw. Yn ôl traddodiadol ciperiaid a phobl gyffredin oedd yn rheoli'r rhostir i saethu grugieir a ffermio da byw. Nid dyna yw'r achos erbyn hyn, am fod y ciperiaid wedi hen fynd.
Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru mae Prosiect Tirweddau Angof yn annog dull partneriaeth i reoli'r dirwedd treftadaeth.
Mae pobl gyffredin a nifer cynyddol o wirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd i adfer y tir comin i'w hen ogoniant. Mae hyn yn cynnwys rheoli rhedyn, adfer rhostir a delio â difrod a achoswyd gan yrru a thipio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ogystal â thanau bwriadol.
Gwirfoddoli
Os hoffech chi helpu i warchod tir comin ac archaeoleg ddiwydiannol unigryw yr ardal, cysylltwch â Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon - GATBB - bwheg@hotmail.co.uk neu ewch i adran Parcmyn Gwirfoddol ar ein gwefan i gael mwy o wybodaeth.