Gweithdai Adeiladau Treftadaeth
Mae’r Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon yn gweithio gyda Chymdeithas Ddinesig Blaenafon a Chanolfan Tywi i gyflenwi cyfres o weithdai ar-lein AM DDIM yn canolbwyntio ar gadwraeth a chynnal a chadw adeiladau o fewn Ardal Gadwraeth Blaenafon.
Gweithdy 1- Dydd Llun 12fed Gorffennaf, 6pm- 8pm
Deall eich hen adeilad – beth sy’n gwneud hen adeilad yn wahanol i adeilad newydd?
- Hynodrwydd lleol – pwysigrwydd i’n cymunedau
- Deunyddiau a dulliau lleol
- Arwyddocâd – cysylltiadau gyda’r gorffennol a chadw adeiladau I genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau
- Rhestru ac amddiffyniad cyfreithiol arall
Gweithdy 2- Dydd Llun 19eg Gorffennaf, 6pm-8pm
Pam y mae angen i hen adeiladau anadlu: adeiladwaith, deunyddiau a dulliau hanesyddol
- Calch – priodoleddau a defnydd
- ‘Gallu anadlu’
- Canlyniadau defnyddio deunyddiau amhriodol
- Adeiladau ac iechyd
- Cynaliadwyedd
Gweithdy 3- Dydd Llun 9eg Awst, 6pm-8pm
Trwsio a chynnal a chadw
- Calch – priodoleddau a defnydd
- ‘Gallu anadlu’
- Canlyniadau defnyddio deunyddiau amhriodol
- Adeiladau ac iechyd
- Cynaliadwyedd
Bydd y gweithdai’n digwydd dros Zoom ac mae’n hanfodol neilltuo lle o flaen llaw i sicrhau eich bod yn derbyn y ddolen i’r cyfarfod Zoom cyn dechrau’r gweithdy.
I gadw lle, cwblhewch y ffurflen os gwelwch yn dda
Gwefan: www.blaenavoncivicsociety.com
Facebook: www.facebook.com/blaenavoncivic