Dysgwch Gymraeg gyda ni

Cwrs blasu Cymraeg AM DDIM yn dechrau ym mis Mehefin. Cyflwyniad i siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfeillgar.

  • Where / Ble – Canolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon
  • When / Pryd - 21/06/2018, 28/06/2018 a 05/07/2018
  • Time / Amser - 1:00pm - 3:00pm

Y cwrs: Cwrs blasu Cymraeg i oedolion dros 3 wythnos i ddechreuwyr llwyr. Cyflwyniad i hanfodion y Gymraeg. Cewch gyfle i ddysgu’r wyddor, cyfarchion, rhifau, dyddiau’r wythnos a llawer mwy!

Dewch draw i gael blas ar y cyrsiau llawn sydd ar gael ym mis Medi.

Bwciwch nawr! Ffoniwch: 01495 333710 neu ewch i learnwelsh.cymru/gwent

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 13th Mehefin 2018