Llwyddiant i gwmni Blaenafon Cheddar Company o Dorfaen yn sioe gaws fwyaf y byd

Fe’i cynhaliwyd yn Nantwich, Sir Gaer ar 24ain a 25ain Gorffennaf,  a chroesawodd y Gwobrau Rhyngwladol Caws a Llaeth fwy na 5,000 o geisiadau caws a llaeth o bob cwr o’r byd. Dyma’r sioe gaws fwyaf yn y byd.

Roedd y Blaenafon Cheddar Company, sydd wedi ei leoli ar Broad Street yn nhref treftadaeth Blaenafon, yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, yn llwyddiannus yn nhri o gategorïau’r sioe.

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 21st Awst 2019