Profiad Gofannu Big Pit

Ydych chi erioed wedi breuddwydio am fod yn of neu ydych chi mewn penbleth am anrheg unigryw eleni?

Wel, falle bod gan Big Pit profiad arbennig i chi!
Dewch i ymuno â Len, Gof Big Pit am brofiad gwych yn yr Odyn. Mae gan Len dros 50 mlynedd o brofiad o weithio fel Gof a danddaear.

Mae pob sesiwn yn cynnwys arddangosiad gan Len, a chyfle i greu procer neu grafwr llwch eich hun.

£30 y sesiwn, y pen.

Mae sesiynau ar gael bob dydd Llun, Mercher a Gwener ym mis Ionawr (heblaw am ddydd Llun 28ain o Ionawr), 10am a 1pm.

Mae sesiwn yn para am hyd at awr. 2 bobl y sesiwn.

Nifer o lefydd cyfyngedig felly archebwch nawr, gan alw: (029) 2057 3650.

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11th Ionawr 2019