Siôn Corn a’i Ffrindiau: GARTREF gydag Amgueddfa Cymru
Eleni mae Amgueddfa Cymru yn cynnal digwyddiad Nadolig digidol lle gall teuluoedd fwynhau profiad Nadolig llawn hwyl o gysur eu cartref eu hunain!
Fel arfer adeg yma’r flwyddyn, byddai Amgueddfa Cymru yn paratoi i groesawu ymwelwyr ifanc a hen i gwrdd â gwesteion arbennig yn ei hamgueddfeydd.
Eleni, mae pethau fymryn yn wahanol, a mae hwyl yr Ŵyl yn fwy bwysig nag erioed, gall teuluoedd ymuno â Siôn Corn, Siân Corn a’r corachod direidus am wledd o hwyl yr ŵyl o gynhesrwydd eu cartref!
Mae prynhawn llawn dop o hud a lledrith y Nadolig yn eich aros! Dyma sydd ar restr Siôn Corn eleni:
- Coginio danteithion gyda’r corachod
- Creu addurniadau arbennig gyda Siân Corn
- Dysgu am draddodiadau Nadoligaidd Cymru
- Profi eich gwybodaeth gyda Cwis Mawr y Nadolig
- Canu caneuon gyda’r corachod
- Stori o flaen y tân gan Siôn Corn
Mae tocynnau ar werth nawr am £5 (a ffioedd) y teulu. Mae tocynnau, dyddiadau, a manylion bellach ar gael o:
www.amgueddfa.cymru/digwyddiadau/digidol/
Cefnogir y digwyddiad gan chawaraewyr Peoples Postcode Lottery
Mae’r digwyddiad yn addas addas i blant 3-8 oed. - Bydd yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae cyfieithiad Iaith Arwyddo Prydain ac isdeitlau hefyd ar gael ar gyfer pob un o'r fideos. Sicrhewch eich bod yn dewis y tocyn cywir pan yn archebu.
Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 11th Tachwedd 2020