Canolfan Treftadaeth Marchnad Nadolig

Ar ddydd Sadwrn 20fed Tachwedd, bydd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn brysur gyda stondinau dros 30 o gynhyrchwyr lleol. Bydd gan bob stondinwr anrhegion hyfryd a phethau da i chi brynu, felly galwch heibio i gael anrhegion Nadolig cynnar a chefnogwch ein cynhyrchwyr lleol.

 

 

Bydd ein caffi Treftadaeth yn cynnig rholiau twrci a stwffin, ynghyd â chacennau Nadolig, mins pies a gwin poeth.

 

 

Peidiwch â cholli Dawnswyr Blaenafon yn perfformio hen ddawns draddodiadol Gymreig ‘Hela’r Dryw’, bydd y ddawns yn digwydd y tu allan i’r Ganolfan Dreftadaeth am 11am fel rhan o’r digwyddiad a’r Farchnad Nadolig ar ddydd Sadwrn  20fed Tachwedd

 

 

Rydym wrth ein bodd â digwyddiadau tymhorol felly rydym yn edrych ymlaen at ein Marchnad Nadolig ar ddydd Sadwrn 20fed Tachwedd, felly rhwng nawr a’r pryd hwnnw, byddwn yn cael cipolwg sydyn ar rai o’r masnachwyr a fydd yn ymuno â ni !

 

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4th Tachwedd 2021