Eleni mae Amgueddfa Cymru yn cynnal digwyddiad Nadolig digidol lle gall teuluoedd fwynhau profiad Nadolig llawn hwyl o gysur eu cartref eu hunain!
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad digidol llynedd, gall teuluoedd ymuno â Siôn Corn, Siân Corn a’r corachod direidus am wledd o hwyl yr ŵyl o gynhesrwydd eu cartref!
Mae prynhawn llawn dop o hud a lledrith y Nadolig yn eich aros!
Dyma sydd ar restr Siôn Corn eleni:
- Ymunwch â galwad fideo fyw i gwrdd â cheirw go iawn mewn Coedwig Gudd yn y
Lapdir
- Creu bisgedi sinsir, hoff ddanteithion Siôn Corn, gyda Siân Corn
- Dysgwch fwy am rai o draddodiadau Nadoligaidd gwych Cymru
- Ymunwch â’r corachod yn eu gweithdy i greu plu eira papur, a globau eira
- Ymunwch â ni i ganu rhai o hoff ganeuon yr ŵyl
- Ymlaciwch o flaen y tân i gael stori gan Siôn Corn.
Mae tocynnau ar werth nawr am £5 (a ffioedd) y teulu. Mae tocynnau, dyddiadau, a manylion bellach ar gael o: https://amgueddfa.cymru/digwyddiadau/digidol/
Wedi ei bostio ar Dydd Iau 21st Hydref 2021