Arolwg Gwerthuso RHTT: Cymerwch Ran!
Anogir trigolion Blaenafon i ddweud eu dweud ar fentrau Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon (RhTT) sydd bellach bron wedi ei chwblhau yn dilyn pum mlynedd o fuddsoddiad RhTT yn y dref.
Mae eich barn yn bwysig gan ein bod am ddeall pa mor ymwybodol ydych o'r hyn a gyflawnwyd, ac unrhyw fanteision cysylltiedig
Mae'r arolwg bellach ar agor felly bydd cyfle i chi ymateb rhwng dydd Llun 15 Gorffennaf a dydd Llun 5 Awst 2024.
Mae RhTT Blaenafon wedi cefnogi perchnogion eiddo lleol i wneud gwelliannau i bum adeilad ar Broad Street hanesyddol Blaenafon.
Mae hefyd wedi anelu, drwy nifer o brosiectau a gweithgareddau cymunedol, i adfywio ac ysbrydoli diddordeb lleol yn hanes y dref, cefnogi cyfranogiad cymunedol yn ardal gadwraeth canol y dref a galluogi pobl i ddysgu sgiliau newydd.
Gall preswylwyr gymryd rhan yn yr arolwg drwy:
- Ymweld â https://www.smartsurvey.co.uk/s/BlaenafonTHPArolwgTerfynol/
- Llenwi fersiwn bapur yn:
- Siop Fwyd y Co-op, Ivor Street, Blaenafon NP4 9NA
- Gwesty’r Lion Hotel, 41 Broad Street, Blaenafon NP4 9NH
- Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Church Road, Blaenafon NP4 9AE
- E-bostio Mair.Sheen@torfaen.gov.uk i gael fersiwn bapur o’r arolw
Dysgwch mwy am yr hyn a wnaed drwy ymweld â'r dudalen Cyllid Cyfalaf.