Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener 11 Rhagfyr bydd pob atyniad awyr agored yn cau, bydd holl safleoedd Cadw â staff a heb staff, ar gau o ddydd Llun 14 Rhagfyr am gyfnod amhenodo
Gwaith Haearn Blaenafon, lleoliad y gyfres deledu Coal House ar y BBC sydd wedi ennill gwobrau, yw’r nodwedd fwyaf arwyddocaol yn Nhirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Y gwaith haearn hwn a gychwynnodd cynhyrchu ym 1789 yw’r safle ffwrnais chwyth sydd wedi ei warchod orau o’i gyfnod a’i fath yn y byd, ac mae’n un o’r cofebion pwysicaf i oroesi o gyfnod cynnar y chwyldro diwydiannol. Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn arwyddocaol hanesyddol gan fod y gwaith haearn, yn ystod dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn un o’r cynhyrchwyr haearn pwysicaf yn y byd.
Admission prices:
Members (Cadw) - Free
Adults - £5.80
Seniors (65+) - £4.60
Juniors (5-17 yrs) - £3.50
NUS (with Valid student ID) - £3.50
Armed Forces & Veterans - £3.50
Family (2 adults & up to 3 children) - £16.80
*1st year English Heritage & Historic Scotland half price. More than one year FREE*