Mae Cyngor Tref Blaenafon yn archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cais i Flaenafon ddod yn Dref Diwylliant y DU yn 2028.
Mae rhaglen Tref Diwylliant y DU yn gystadleuaeth genedlaethol sy'n cael ei rhedeg gan Lywodraeth y DU. Bydd yn rhoi cyfle i un dref gyflwyno rhaglen ddiwylliannol yn 2028, gyda chefnogaeth cyllid gwerth £3 miliwn. Y nod yw hybu balchder lleol, annog cyfranogiad, cynyddu nifer yr ymwelwyr ac adfywio hirdymor trwy ddiwylliant.
A fyddech cystal â llenwi’r arolwg, anfon neges breifat neu e-bost atom:
Bydd eich barn yn helpu i bennu a fydd Blaenafon am fwrw ymlaen â’r cais.


