Oakfield Bed and Breakfast

Cyfeiriad:1 Oakfield Terrace, Varteg Road, Blaenafon, Torfaen, NP4 9DS

Ffôn:01495 792829

E-bost:enquiries@oakfieldbnb.com

Gwefan:http://oakfieldbnb.com/


Yr unig ddarparwr llety wedi ei raddio gan Croeso Cymru ar gyfer Gwely a Brecwast yn nhref Blaenafon yw Oakfield Bed and Breakfast, llety gwely a brecwast gyda phedair seren.

Lleolir Oakfield o fewn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ac mae ar ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n cyffinio Llwybr Hamdden Torfaen (Llwybr Beicio Cenedlaethol 492).

Mae’r llety gwely a brecwast o fewn pellter cerdded i’r prif atyniadau, gan gynnwys Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, y Pwll Mawr, Gwaith Haearn Blaenafon, Canol Tref Blaenafon a Llynnoedd Garn. Mae nifer o dafarndai / bwytai lleol gerllaw os ydych eisiau bwyd neu ddiod.

Mae gan Oakfield ystafell gyda dau wely ac ystafell gawod en-suite, ystafell ddwbl gyda chawod en-suite ac ystafell i’r teulu ar gyfer hyd at bedwar o bobl gydag ystafell ymolchi breifat i’w defnyddio gan y gwesteion sy’n aros yn yr ystafell honno yn unig.

Mae’r cyfraddau’n seiliedig ar y person fesul noson, gyda 2 o bobl yn rhannu ac yn cynnwys llety a brecwast llawn wedi ei goginio. Codir hanner pris oedolion ar gyfer plant dan 12 oed. Mae plant dan 3 oed yn aros yn rhad ac am ddim.

Oakfield Bed and Breakfast