Old Rectory Barn

Cyfeiriad:Old Rectory Farmhouse, Maesygwartha, Gilwern, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 0EY

Ffôn:01873 830244

E-bost:info@oldrectorybarn.co.uk

Gwefan:http://www.oldrectorybarn.co.uk/


Yn ddelfrydol i deuluoedd neu grwpiau mawr. Mae Old Rectory Barn wedi ei adnewyddu’n hyfryd i ddarparu dwy uned hunan-arlwy, a gellir hefyd eu bwcio gyda’i gilydd.

Mae’r prisiau yn cynnwys gwres a thrydan, llieiniau a dillad gwely. Rydym yn darparu Pecyn Croeso o gynnyrch lleol.

Mae’r Stablau ar y llawr gwaelod yn cymryd 4 o bobl mewn un ystafell dau wely ac un ystafell ddwbl, y ddwy yn en-suite. Mae gan y gegin/ystafell fyw ddrysau Ffrengig yn arwain i’r ardd a’r patio.

Mae’r llofft yn cymryd 4-6 o bobl mewn un ystafell dau wely, ac un ystafell i’r teulu, y ddwy yn en-suite. Dros ddau lawr mae golygfeydd hyfryd o’r gegin/ystafell fyw. Patio a gardd. Peth llety ar y llawr gwaelod.

Old Rectory Barn