Pasbort Digidol Blaenafon Yn Gyffredinol

Croeso i Ap Pasbort Digidol Blaenafon, cyfrwng digidol i’ch helpu i ddarganfod hanes cyfoethog ac amrywiol tref Blaenafon a’r dirwedd ddiwydiannol o’i hamgylch.

Teithio yn ôl mewn Amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Bydd profiadau 'Rhithwir' yn eich tywys yn ôl mewn amser gan ddefnyddio ffilmiau 360 gradd. Gellir eu gwylio'n uniongyrchol ar eich ffôn trwy ddefnyddio gwyliwr cardbord; neu drwy ddefnyddio setiau pen Rhithwir. Mae yna dair ffilm, a bydd pob un yn eich tywys yn ôl i'r 19eg a'r 20fed ganrif, lle byddwch yn gweld sut oedd pob lleoliad yn edrych ar yr adeg honno. Bydd adroddwr yn adrodd hanes y safle a chyfleu sut deimlad oedd byw neu weithio yno.

Llwybrau

Bydd y gweithrediad ‘Llwybr’ yn eich caniatáu i deithio ar nifer o deithiau o amgylch y dref a’r ardal o’i chwmpas, gan ddefnyddio lluniau hanesyddol, testun, cyfrwng clywedol a fideo i roi hanes cryno a chefndir y gwahanol fannau o ddiddordeb.

  • I ddechrau Llwybr dewiswch yr opsiwn 'Llwybr' o’r brif ddewislen
  • Dewiswch y Llwybr yr ydych am ei ddilyn a chliciwch 'Dechrau’r llwybr' i ddechrau ar eich taith
  • Yn ôl y Llwybr yr ydych wedi ei ddewis, bydd y Pasbort yn dangos lluniau, testun neu’n chwarae testun clywedol. I symud ymlaen i’r man nesaf o ddiddordeb ar y map, pwyswch Nesaf. I ddychwelyd neu ail-chwarae man o ddiddordeb blaenorol, pwyswch Nôl
  • Os hoffech chi weld y map eto, pwyswch Map ar unrhyw adeg.
  • Gallai fod yn ddefnyddiol i chi naill ai i droi amser Auto-Lock eich ffôn i ffwrdd (Settings->General) neu ei gynyddu.

Sylwer: pan fyddwch yn dilyn taith, cofiwch fod yn ymwybodol o draffig a cherddwyr eraill. I gael gwybodaeth bellach am unrhyw agweddau o’r llwybrau, cysylltwch â’r Ganolfan Groeso yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd, Ffôn: 01495 742333

Canllaw i Wylwyr

Wrth i chi gerdded a mwynhau’r llwybr, defnyddiwch y canllaw i wylwyr trwy wthio’r eicon 'llygad' ar y bar offer. Cliciwch y llun ar ôl gweld y gwrthrych hwnnw a bydd eich sgôr yn ymddangos wrth i chi bwyso’r botwm ar ddiwedd y llwybr.

Gwefan Symudol Blaenafon

Darganfyddwch oriau agor a manylion cyswllt atyniadau, ac edrychwch ar ddigwyddiadau sy'n digwydd ar Safle Treftadaeth y Byd, trwy ymweld â gwefan Blaenafon. Gallwch fynd i'r wefan yn uniongyrchol o'r Pasbort Digidol trwy bwyso 'Ymweld â Gwefan Blaenafon' o'r brif ddewislen.

Sylwer: er mwyn defnyddio’r wefan bydd rhaid i chi gael cyswllt diwifr (wifi) neu feddu ar gysylltiad rhyngrwyd 3G sy’n dda. Gall eich rhwydwaith godi tâl ychwanegol i’ch tariff arferol os byddwch chi’n defnyddio’r rhwydwaith cellog (3G).

Codau QR

Wedi'i gwasgaru o amgylch y Dref Dreftadaeth a'r Dirwedd Ddiwydiannol, fe welwch nifer o godau QR. Wrth sganio'r rhain fe gewch mwy o wybodaeth am y man o ddiddordeb, neu chwaraeir fideo / sain yn dangos sut beth oedd bywyd pan oedd yr ardal ddiwydiannol yn ei hanterth.

I sganio cod QR, bydd angen i chi fod wedi gosod darllenydd codau QR ar eich ffôn. Os nad oes gennych chi un eisoes, gallwch osod un trwy ddilyn y cyswllt ‘Codau a Darllenyddion QR’ o’r dudalen gartref.

Sylwer: mi fydd hwn yn eich tywys i’r App Store ac yn awgrymu Darllenydd QR. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am gymwysiadau trydydd parti ac nid yw’n hyrwyddo unrhyw feddalwedd darllen QR.

Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.