8. Stryd Y Brenin
Ewch yn eich blaen i fyny’r bryn i dop Heol Lydan, sy’n ymuno â Stryd y Brenin. Mae Stryd y Brenin yn un o strydoedd hynaf Blaenafon a’r enw Cymraeg gwreiddiol arni oedd ‘Heol-ust-tewi’. Yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif roedd y stryd yn ffynnu, gyda llawer o siopau a thafarndai. Stryd y Brenin oedd man geni’r undebwr llafur a’r gwleidydd Llafur Syr Isaac Hayward (1884-1976), a oedd yn Arweinydd Cyngor Sir Llundain (1947-1965). Pan ddewch i ddiwedd Stryd y Brenin ewch ymlaen i’r brif ffordd, gan droi i’r chwith i lawr y bryn. Edrychwch i’r dde.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.