Fersiynau o ffilmiau Treftadaeth Byd a Blaenafon ar gyfer CA2/3
Storïau clywedol yn seiliedig ar 10 monolog yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd
Llwybrau:
Llwybr Tomen Coety (Pwll Mawr) - Adnoddau i ategu at ymweliad ysgol i Domen Coety. Mae'r hen domen rwbel pwll glo bellach yn warchodfa natur fechan ac yn ddelfrydol i deuluoedd sydd am fynd allan i gerdded a dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth - yn enwedig gwyddoniaeth a daearyddiaeth. www.museumwales.ac.uk/coitytip
Adnoddau i Athrawon:
Gweithgareddau i ategu at ymweliad â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (lluniwyd gan Ganolfan Camlas Fourteen a Phrosiect Tirweddau Angof)
Picedwyr, Heddlu a Gwleidyddiaeth -(Pwll mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru) – Adnodd dysgu ar gyfer ysgolion uwchradd am Streic y Glowyr 1984-5. Mae hefyd yn cynnwys tystiolaeth lafar a lluniau ar www.amgueddfa.cymru/media/9754/strike-cy.pdf
Plant y Chwyldro (Pwll mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru) - Plant y Chwyldro yw ein hadnodd dysgu rhyngweithiol a grëwyd mewn partneriaeth ag AALl Casnewydd i gynyddu dealltwriaeth o amodau byw a gweithio plant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n cynnwys gweithgareddau taenlen, ymarferion mapio, teithiau rhithwir a thaflenni y gellir eu lawr lwytho ar www.museumwales.ac.uk/bigpit/learning/resources/
Blaenafon gan David Maddox, Martin Williams, Angharad Williams - NGfL Cymru - Mae'r uned hon yn cynnwys tri adnodd hanes rhyngweithiol. Bwriad y gweithgareddau yw cyfrannu at ddatblygu sgiliau hanesyddol ac allweddol. Fel rhan o ymchwilio'r ardal leol mae cyfle i ddisgyblion astudio pynciau amrywiol gan ddefnyddio ystod o ffynonellau gan gynnwys cynlluniau, ffotograffau, awyrluniau, adluniadau, animeiddiad, ffurflenni cyfrifiad, mapiau ac adroddiadau'r Comisiwn Brenhinol. Mae'r gweithgareddau yn datblygu dealltwriaeth o sut y mae'r gorffennol yn cael ei ddehongli gan haneswyr ac mae'n annog disgyblion i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd.
Hanesion Glo: Gweithio a Byw mewn cymunedau glo a haearn gan Gill Foley, Martin Williams, David Maddox. Golwg ar fywydau gwaith a bywyd cartref mewn cymunedau glo yn y bedwaredd ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif yng Nghymru.