Gallai hen blasty ADFEILIEDIG cyn-feistr haearn gael ei adfer diolch i gynlluniau i roi bywyd newydd i ganol tref.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ceisio £27 miliwn gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, sy'n cymryd lle'r arian Undeb Ewropeaidd roedd y sir wedi bod yn ddibynnol arno cyn hyn, i adfywio Blaenafon a Phont-y-pŵl.
Y gobaith yw y byddai adfer y tŷ a'r gerddi yn “cynyddu nifer yr ymwelwyr yn sylweddol" yng nghanol y dref a chynyddu'r amser y bydd ymwelwyr ag arian yn eu poced yn treulio yno, yn ogystal â chreu cyfleoedd gwaith newydd, a chreu cysylltiadau gwell rhwng canol y dref ag atyniadau Treftadaeth y Byd.