Mae cwmni arlwyo lleol wedi ennill y contract i reoli Caffi Canolfan Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon.
Mae Johnathan Gibbs, o Garndiffaith, wedi bod yn rhedeg caffi a gwasanaeth arlwyo Front Row Food, sydd â thema rygbi, ym Mhontnewynydd, ers y pum mlynedd ddiwethaf.
Nawr, bydd ei wraig Ria yn ymuno ag ef wrth iddynt gymryd tenantiaeth Caffi Canolfan Treftadaeth y Byd fis nesaf.
Meddai Ria: “Rydyn ni mor gyffrous i gymryd awenau’r caffi ac yn bwriadu adlewyrchu’r llwyddiant yr ydyn ni wedi ei gael yn barod. Hoffem ddiolch i bawb sy’n parhau i’n cefnogi.
“Mae’n anrhydedd mawr cael bod yn rhan o safle treftadaeth, ac rydyn ni’n hynod o ddiolchgar ein bod wedi cael ein dewis i ymgymryd â’r rôl hon.
“Rydyn ni am roi cyfleoedd i bobl leol o ran swyddi, gwirfoddoli a hyfforddiant a’u helpu i gyflawni eu nodau mewn bywyd er mwyn bod y fersiwn orau ohonyn nhw’u hunain y gallan nhw fod. Yr unig ffordd o lwyddo yw gweithio’n gyd-gynhyrchiol gyda’r gymuned yr ydyn ni’n byw ynddi.”
Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n cyflogi pedwar aelod o staff, ac mae disgwyl iddo gyflogi pedwar aelod arall o staff pan fydd y caffi’n ailagor fis nesaf.
Bydd y caffi ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul, rhwng 9.15am a 4.30pm, ac yn cynnig bwydlenni brecwast a chinio yn ogystal â phrydau arbennig wythnos, er enghraifft byrgyr Bara Brith newydd. Mae hefyd yn bwriadu gweithio gyda chynhyrchwyr lleol fel cwmni Blaenafon Cheddar Company.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Hoffem groesawu Front Row Trading i gymuned Blaenafon.
“Rydyn ni’n gwybod ei fod yn mynd i fod yn ased gwych i’r ganolfan treftadaeth, ac edrychwn ymlaen at weld y rhyfeddodau fydd ar y fwydlen.”
Bydd y caffi ar gau o ddydd Sadwrn 26 Awst hyd ddydd Mawrth 5 Medi.