Camwch drwy hanes Blaenafon a gweld sut roedd bywyd yngyn y llyfr diweddaraf gan Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon.
Mae Blaenafon: Dathlu Treflun yn adrodd hanes Broad Street a’r strydoedd o gwmpas ac yn cynnwys ffotograffau o siopau, capeli, tafarndai a digwyddiadau.
Ynghyd a lansiad y llyfr, cynhelir arddangosfa am ddim yn dangos ffotograffau o Flaenafon drwy'r oesoedd yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon, o ddydd Mawrth 13 Medi hyd at ddydd Sul 18 Medi, a dydd Mawrth 20 Medi hyd at ddydd Sul 25 Medi. Bydd ar agor rhwng 10am – 4.30pm.
Bydd copïau o’r llyfr a ffolderi’r arddangosfa yn cael eu rhoi i ysgolion, grwpiau a mudiadau lleol. Mae ffolderi’r ysgolion hefyd yn cynnwys pocedi ychwanegol er mwyn i’r disgyblion roi eu gwaith eu hunain ynddynt wrth iddynt archwilio hanes Blaenafon ymhellach.
Bydd copi o’r llyfr hefyd ar gael yn Llyfrgelloedd Blaenafon a Chwmbrân, a lleoliadau lleol ar ôl yr arddangosfa.
Mae’r llyfr a’r arddangosfa ffotograffiaeth wedi eu hariannu gan Raglen Treftadaeth Treflun Blaenafon (THP).
Dywedodd llefarydd ar ran Dywedodd Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon: “Mae Grŵp Hanes Treftadaeth Blaenafon wastad yn ymchwilio i gefndir cymdeithasol a diwydiannol cyfoethog ein tref. Ein gobaith yw y bydd yn etifeddiaeth i’r genhedlaeth iau – i ysbrydoli ac annog teimladau o falchder a pharch."
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol ar gyfer Sgiliau, yr Economi ac Adfywio: “Mae’r prosiectau sy’n parhau i ddod gan y THP yn dal i wneud argraff arnaf. Maent wir yn dod â hanes Blaenafon yn fyw. Da iawn i bawb sydd wedi chwarae rhan.”
Dywedodd Gareth Davies, Cadeirydd Partneriaeth Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon: “Mae’r arddangosfa a’r llyfr yn bortread gwych o galon y dref, un a fydd yn dod ag atgofion melys i lawer o drigolion ac un a fydd yn helpu i gadw hanes cyfoethog y dref yn fyw i’r genhedlaeth nesaf.”
Meddai’r Cynghorydd Alan Jones, Maer Blaenafon: “Mae Cyngor Tref Blaenafon wedi ei blesio’n arw ac yn ddiolchgar iawn am y gwaith a gwblhawyd hyd yma mewn perthynas â ‘Threftadaeth Treflun’.
“Mae’r prosiect yma wedi bod yn un hynod ac un sydd wir yn cynrychioli hanfod a hanes Broad Street, Blaenafon”.
Dywedodd y Cynghorydd Janet Jones, Hyrwyddwr Treftadaeth y Byd Blaenafon: “Llwyddiant gwych gan y grŵp hwn o wirfoddolwyr, yn arddangos ein treftadaeth mewn geiriau a lluniau”.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect pwysig a difyr yma. Mae’r dreftadaeth ysgrifenedig, gweledig a diwylliannol yma o arwyddocâd anferth nid yn unig i Flaenafon ond i Gymru ac yn wir, i’r byd.”
Mae Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon (THP) yn cefnogi adfywio ffisegol a chymunedol treftadaeth ym Mlaenafon drwy grantiau adeiladau wedi eu targedu at eiddo penodol a mentrau cymunedol. Mae gweithgareddau cymunedol y rhaglen yn ein helpu i gysylltu ar draws cymuned Blaenafon i archwilio cysylltiadau personol pobl gyda’r treftadaeth ac i ddathlu Statws Treftadaeth y Byd y dref.
Mae Partneriaeth Dreftadaeth Treflun Blaenafon yn cael ei chyflenwi drwy gyfraniadau ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cadw a pherchnogion eiddo preifat.
Mae Rhaglen Treftadaeth Treflun Blaenafon, ar y cyd â Chanolfan Tywi a Chymdeithas Ddinesig Blaenafon, yn cynnal cyfres o weithdai am ddim ar gadwraeth adeiladau treftadaeth:
- Gofal a gwaith cynnal a chadw hanfodol: Dydd Mercher 21 Medi 10am -1pm
- Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau Hŷn: Dydd Mercher 28 Medi 10am -1pm
- Clinig Hen Dŷ: Dydd Sadwrn 1 Hydref 10am -1pm.
Mae'r gweithdai hyn ar gyfer pobl nad ydynt yn weithwyr proffesiynol ac mae archebu'n hanfodol. I gadw'ch lle, gyrrwch e-bost at mair.sheen@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 766198. Fel arall, ewch i Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.