Mae cynlluniau uchelgeisiol i adfywio canol trefi Blaenafon a Phont-y-pŵl wedi cael eu cyflwyno.
Bwriad y cynlluniau ar gyfer adfywiad a buddsoddiad yw ceisio ailddatblygu’r ardaloedd i bobl sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd, yn ogystal â denu busnesau newydd ac ymwelwyr.
Mae’r cynlluniau ar gyfer Blaenafon yn cynnwys cysylltiadau rhwng y dref ac atyniadau twristaidd lleol, gwella mannau cyhoeddus gan gynnwys Sgwâr y Farchnad, a chynllun i ddod â masnachwyr newydd i’r dref.
Mae’r weledigaeth ar gyfer Pont-y-pŵl yn cynnwys hwb diwylliannol a chaffi ar Hanbury Road sy’n cysylltu’r parc a chanol y drefn, ailddatblygiad maes parcio’r Ganolfan Ddinesig a gwelliannau pellach i’r farchnad.
Gofynnir nawr i drigolion a busnesau lleol roi eu barn ar y Cynlluniau Creu Lle a fydd yn helpu i osod uchelgeisiau buddsoddiad Cyngor Torfaen dros y 10 mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae gan Flaenafon a Phont-y-pŵl hanes cyfoethog fel canolfannau masnachol pwysig ac rydym am sicrhau eu bod yn parhau i ddenu trigolion, ymwelwyr a busnesau yn yr 21ain ganrif.
"Mae’r cynigion yn cyflwyno gweledigaethau cyffrous ar gyfer y ddwy dref, ond mae’n hanfodol fod y bobl sy’n byw ac yn gweithio yno yn rhoi eu barn wrthym ni am y syniadau, yn enwedig unrhyw beth yr ydych chi’n credu ein bod ni wedi colli.
"Mae’r rhain yn gynlluniau tymor hir ac maen nhw’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi ym Mlaenafon a Phont-y-pŵl ar gyfer y dyfodol."
Mae yna nifer o ffyrdd i ddysgu mwy am y cynlluniau a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad:
- Ewch at ein tudalen ymgysylltiad cymunedol ar-lein
- Ewch i weld y cynlluniau a chwblhewch holiaduron ar bapur yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon, o ddydd Mawrth i ddydd Sul, rhwng 10am a 5pm; Canolfan Ddinesig Pont-y-pŵl, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 4.30pm; Tŷ Blaen, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 1pm.
- Ewch i sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd, Church Road, Blaenafon NP4 9AE, Dydd Mercher 15 Mehefin, rhwng 2pm a 7pm.
- Neu Swyddfa Gymunedol Pont-y-pŵl, 35a Commercial Street, Pont-y-pŵl, NP4 6JQ, ar ddydd Iau 16 Mehefin, rhwng 2pm – 7pm.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Llun 27 Mehefin. Bydd yr ymateb i sylwadau unigol yn rhan o adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Gynghorwyr yng Ngorffennaf 2022.