Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024

Wedi ei bostio ar:09/02/2024

Bi Pit Apprenticeship

Cynllun Prentisiaethau Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn mynd o nerth i nerth

Ers ei gyflwyno, mae cynllun prentisiaethau Big Pit wedi helpu 15 prentis i feithrin sgiliau Trydanol, Peiriannol a Thywys yn y pwll. Mae’r cynllun yn rhan o waith cynllunio olyniaeth Big Pit i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau a dysgu am hanes glo.

Gyda 2 brentis newydd ar fin cychwyn yn yr wythnosau nesaf, mae datblygiad a thwf y cynllun wedi caniatáu pobl sydd â blynyddoedd o brofiad i rannu eu sgiliau technegol a’u profiad gan sicrhau mynediad diogel i’r cyhoedd i’r gwaith tan ddaear hanesyddol, yn ogystal â rhannu hanes ddiwydiannol Cymru gyda chenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Jez Williams, Prentis Mecanyddol Glofa, o Flaenafon: “Dechreuodd fy hen daid weithio yn Big Pit gan mlynedd union i’r wythnos wnes i ddechrau. Nes i wneud cais am y swydd achos mod i’n hoffi trwsio pethau a cefais i fy ysbrydoli gan gyflwyniad STEM gawson ni yn yr ysgol gan rai o’r timau Mecanyddol ac Addysg yn Big Pit. Dwi’n byw yn lleol ac eisiau cadw treftadaeth Cymru yn fyw.”

Dywedodd Adrian Hawkins, Tywysydd Glofa ac Arolygwr: “Roeddwn i eisiau newid gyrfa, a gan fod gen i radd mewn hanes ac wedi fy magu ymysg y pyllau glo, roedd y cyfle prentisiaeth yn Big Pit yn berffaith i fi.”

Mae’r cynllun hefyd yn rhan o ymrwymiad parhaus Amgueddfa Cymru i wella’r sylfaen sgiliau traddodiadol yng Nghymru.