Fe wnaeth Dug a Duges Caergrawnt ymweld â Blaenafon ar ddydd Mawrth fel rhan o daith undydd i Dde Cymru i nodi Dydd Gŵyl Dewi.
Treulion nhw amser gyda phobl ifanc sy’n cael cymorth gan ganolfan ieuenctid Hwb Torfaen cyn ymweld â Chanolfan Treftadaeth y Byd lle cawsant gyfle i gwrdd â 12 o Lysgenhadon Ifanc Safle Treftadaeth y Byd.
Yn eu plith oedd Dan a Kelsi, a eglurodd wrth yr Uchelderau Brenhinol am y rhaglen a’u tywys o amgylch y ganolfan.
Dywedodd Dan, 14: " Dywedais wrthynt am yr hyn yr ydym yn ei wneud fel llysgenhadon, fel ymweld â safleoedd treftadaeth eraill o amgylch y DU i ddysgu mwy amdanynt.
""Rwy'n mwynhau bod yn llysgennad yn fawr iawn - mae wedi fy ngwneud yn fwy cynhyrchiol ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau."
Ychwanegodd Kelsi, 12 oed: "Fe wnes ysgwyd dwylo’r Tywysog William a Catherine - roedden nhw'n garedig iawn ac roedd yn hawdd siarad â nhw."
Mae rhaglen arobryn Llysgenhadon Ifanc Safle Treftadaeth y Byd yn un o nifer o fentrau sy’n cael eu rhedeg gan yr Hwb i rymuso pobl ifanc i gael llais amlwg a phwerus yn eu bywydau eu hunain, eu cymunedau lleol a threftadaeth y byd.
Cyfarfu’r Dug a’r Dduges hefyd ag aelodau o rwydwaith Care Busters yr Hwb, sy’n cefnogi pobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, ac aethant ati i gymryd rhan mewn rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael yn y ganolfan yn Broad Street, gan gynnwys gwneud picau ar y maen.
Yn ystod eu hymweliad â Chanolfan Treftadaeth y Byd, ymunodd y Pâr Brenhinol â’r llysgenhadon ifanc i wneud crefftau i nodi 50 mlynedd ers Confensiwn Treftadaeth y Byd UNESCO, ac aethant ati i blannu coeden fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Bydd y goeden geirios Japaneaidd addurniadol a dyfwyd yn y DU, ac a blannwyd ar dir Canolfan Treftadaeth y Byd, yn rhan o fenter Canopi Gwyrdd y Frenhines i nodi 70 mlynedd ers cychwyn teyrnasiad Ei Mawrhydi.
Dywedodd Dermot McChrystal, Prif Swyddog Addysg Cyngor Torfaen: " Y Cyngor sefydlodd rhaglen Llysgenhadon Ifanc Safle Treftadaeth y Byd i ddechrau ac rydym yn falch o gefnogi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan yr Hwb a’r llysgenhadon.
"Mae'n enghraifft wych o sut y gellir cefnogi pobl ifanc i ddysgu a datblygu, tra'n helpu i hybu treftadaeth y byd yn lleol ac yn genedlaethol."
Ychwanegodd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: " Ffocws yr ymweliad oedd y plant ac mae’n ddiwrnod a fydd yn aros gyda nhw am byth.”
Cyn i’r Dug a’r Dduges adael, cyflwynwyd anrhegion iddynt gan y Llysgenhadon ifanc, yn cynnwys blodau a bagiau bach o anrhegion i’r Tywysog George, y Dywysoges Charlotte a’r Tywysog Louis.
Mae grwpiau ac unigolion ar draws y DU yn cael eu hannog i "blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî". I gael rhagor o wybodaeth am Ganopi Gwyrdd y Frenhines, ewch i https://queensgreencanopy.org/