Yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 1700au, mae’r dafarn hon wedi ei hadfer y tu mewn a’r tu allan gan roddi amgylchedd modern iddi.
Mae patio mawr a lawnt yn lle gwych i gael diod ar ddiwrnod braf o haf, gan fwynhau golygfeydd godidog o’r cymoedd o gwmpas.
Mae ystafell gemau lle gallwch chwarae pŵl a dartiau ac mae cwrt Boules chwe piste hefyd ar gael yn y cefn.
Mae’r dafarn yn berffaith fel lle i grwpiau gyfarfod e.e. pen-blwyddi, angladdau, dathlu pen-blwydd priodas, aduniad ysgol ac ati.