Mae’r Angel Hotel, tafarn Sioraidd o oes y goetsh fawr, wedi ei lleoli yn nhref marchnad brysur y Fenni – rhyw chwe milltir o dref Blaenafon.
Mae’r gwesty steilus yn cynnig lefel uchel o wasanaeth a llety.
Mae 29 o ystafelloedd en-suite yn y gwesty, 2 ystafell en-suite yn y Mews a hefyd tri bwthyn: Castle Cottage, The Lodge a Priory Cottage.
Mae’r gwesty yn addas ar gyfer teithio mewn grŵp ac mae bwyty braf yno, sydd wedi derbyn rhosyn AA am ei safonau uchel.
Mae gan y gwesty 3 man digwyddiadau hefyd: The Cellar, The Brecon Room aThe Ballroom, sy’n addas ar gyfer partïon o 10 – 150 o westeion.
Mae’r Angel wedi ennill gwobr o ragoriaeth bob blwyddyn ers 2008 gan y Gildiau Te ac yn 2011 enillodd ‘Oscar y byd te’ – y te gorau y tu allan i Lundain.