4 Seren, bynglo gwledig ar ei ben ei hun, gyda dwy lofft
Mae Blackthorn Lodge ym mhentref gwledig Coed y Paen a dim ond 2 funud mewn car neu 10 munud ar droed i dafarn y Carpenters' Arms Public House & Restaurant a Chanolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr Cronfa Llandegfedd.
Mewn ychydig llai na 2 erw o dir gyda lle i barcio oddi ar y ffordd, mae’r bynglo gwledig hwn gyda phedair seren gan Croeso Cymru yn cynnig dwy lofft - un gyda gwely dwbl ac un gyda dau wely sengl maint llawn - lolfa braf gyda soffa gornel siâp L a stôf llosgi coed hyfryd lle medrwch ymlacio o flaen tân go iawn. Mae ganddo hefyd deledu sgrin fflat 32” gyda sianeli teledu Freeview (yn y lolfa a’r brif lofft) a chwaraewr blu ray dvd. Mae’r gegin fodern yn cynnwys oergell-rhewgell, peiriant golchi, hob cerameg, popty a phopty microdon. Mae’r ystafell ymolchi yn ystafell wlyb wedi ei theilio yn llwyr gyda chawod, toiled a sinc.
Y tu allan, mae patio gyda dodrefn gardd, blodau mewn potiau a darn mawr o laswellt i ddibenion adloniant. Mae yna hefyd berllan fechan gyda choed ffrwythau sy’n gartref i haid fechan o ieir maes. Mae offer chwarae i blant yn cynnwys siglen ddwbl ac ati a barbeciw bric ar gael i westeion ei ddefnyddio - yn unol ag amodau.
Mae’r llety yn addas i gyplau, ffrindiau a theuluoedd ac mae’n addas i bobl ag anabledd. Mae cawod ystafell wlyb a drysau, socedi trydan a switshys goleuadau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Nid oes unrhyw gostau ychwanegol cudd – mae’r trydan, coed ar gyfer y stôf, llieiniau a dillad gwely oll wedi eu cynnwys yn y pris.
Mae Blackthorn Lodge 2-3 munud yn y car neu 10 munud ar droed i ffwrdd o dafarn y Carpenters' Arms Public House & Restaurant a Chronfa Llandegfedd gyda’r Ganolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr a agorodd yn ddiweddar. Mae Cronfa Llandegfedd wedi ei lleoli yng nghanol cefn gwlad. Mae’n llyn 434 erw, sy’n 1.5 milltir o hyd a milltir o led ar y pwynt lletaf. Mae’r safle cyfan wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cyfoeth o fywyd gwyllt. Mae’r gronfa yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys amrywiol chwaraeon dŵr, gwylio adar, pysgota, cerdded a chaffi lle medrwch edrych allan dros y llyn a mwynhau dewis da o luniaeth.
Mae Blackthorn Lodge hefyd yn agos at dri chwrs golff lleol – Clybiau Golff a Gwlad Greenmeadow, Alice Springs a Woodlake Park. Mae’r Fenni, Caerdydd, Trefynwy a Bannau Brycheiniog hefyd lai na 30 munud i ffwrdd yn y car.
Mae tref Brynbuga yn cynnig amrywiol siopau bach gwledig traddodiadol, siopau coffi, tafarndai a bwytai tra bo Cwmbrân - sydd lai na 4 milltir i ffwrdd - yn cynnig Bowl Plex, Sinema Vue, Fferm Gymunedol ac amrywiaeth o gaffis, bwytai a siopau mwy.
Mae atyniadau lleol yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, y Pwll Mawr, Amffitheatr Rufeinig Caerllion, Cronfa Llandegfedd, Llyn Cychod, Safle Picnic Brynbuga, Fferm Gymunedol ac yn y blaen. Mae’r bwthyn lai na 6 milltir o draffordd yr M4, sy’n rhoi mynediad hawdd i gestyll lleol (edrychwch ar ein gwefan) a llawer mwy o atyniadau gan gynnwys Sain Ffagan, Llwybr Golygfaol Cwmcarn ac yn y blaen.