Cyfle i swatio a gwneud eich hun yn gysurus mewn man gwledig, hyfryd. Caewch y llenni, cynnau’r tân coed ac ymlacio i rywfaint o gerddoriaeth, neu beth am wylio ffilm o'ch dewis ar Netflix.
Mae’r caban sydd wedi'i leoli ar ymyl Bannau Brycheiniog yn agos at dref farchnad Y Fenni, gyda theithiau cerdded, cyfle i seiclo, yn cynnwys beicio mynydd, neu nofio mewn dŵr oer.
Mae’r gwres ymlaen drwy’r amser yn y caban, ond os ydych chi eisiau ‘waw ffactor’ go iawn, beth am gynnau’r tân coed ac eistedd yn ôl ac ymlacio.