Mae fferm Middle Ninfa yn un o safleoedd gwersylla bach blaenaf y DU ac yn cael ei argymell yn llyfr Dixie Wills "Tiny Campsites".
Deg o leiniau bach terasog gyda lle cynnau tân, ar ochr y mynydd gyda golygfeydd braf dros gefn gwlad Sir Fynwy.
Cyfleusterau cyfyngedig: toiledau compost, cawodydd a gynhesir gyda phŵer solar, dim faniau campio.
Mae tŷ bynciau yn cynnig llety hunanarlwyo cyfforddus i hyd at 6 o bobl.
Mae fferm Middle Ninfa yn cefnogi cynhyrchwyr lleol, cyflenwyr lleol a siopau masnach deg, y mae digon ohonynt yn y sir.