Wedi'i leoli mewn dros saith erw a hanner o erddi, mae'r gwesty Cymreig yng Nghwmbrân, sy'n eiddo preifat, yn lleoliad delfrydol ar gyfer busnes a phleser. Mae'r gwesty moethus sydd wedi derbyn Achrediad Pedair Seren gan yr AA wedi cael ei ailwampio ers i deulu de Savary gymryd yr awenau ym mis Tachwedd 2012.
Mae'n cynnig 70 o ystafelloedd gwely en-suite, Clwb Hamdden Preifat a Sba i'r Aelodau'n unig, Bwyty sydd yn enwog am ei fwyd Cerfdy 3 chwrs ac Ystafelloedd Mawr ar gyfer Dathliadau, Priodasau a Dawnsfeydd Cinio.
Mae'r dderbynfa helaeth a lolfa gyfforddus yn gynnes eu natur, gyda thân coed go iawn sy'n llosgi dros dunnell o lo a choed lleol bob wythnos. Tra yn yr haf, bydd Gardd Patio estynedig, ar ei newydd wedd yn rhagorol i gwrdd dros ginio a nosweithiau hamddenol gyda photel o win.
Mae croeso cyfeillgar a brwdfrydig bob amser yn eich disgwyl yn y Gwesty sydd yn enwog yn yr ardal am ei safonau uchel o ran bwyd, gwasanaeth a llety.
Mae cysylltiad diwifr a pharcio ar gael am ddim i'r holl westeion ac mae gan y gwesteion eu lolfa arbennig eu hunain.
Rydym yn hynod o falch ein bod wedi dod yn ail yng Nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau 2014 am ein gerddi rhagorol.