Cafodd y Ganolfan ei moderneiddio yn ddiweddar gan Ann a Peter Jones sy'n byw ac yn gweithio ar y safle bridio gwartheg pedigri duon Cymreig, gerllaw.
Mae'r fferm bellach yn ymestyn i tua 20 hectar ac mae wedi ei hamgylchynu gan ardal o dir comin drefol sydd yn cynyddu'r ardal yn sylweddol ar gyfer ymwelwyr i gerdded ac archwilio.
Mae'r fferm yn rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol 'Tir Gofal' Cymru gyfan, lle mae'r ffocws yn cael ei roi ar ffermio mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd a rheoli'r tir ar gyfer bio-amrywiaeth a budd bywyd gwyllt.
Mae'r teulu wedi byw yn y fferm am dros 30 mlynedd, ac mae ei hanes yn perthyn yn agos i anheddiad Pwll Du y credir ei fod wedi cael ei sefydlu pan ddechreuwyd cloddio am lo a haearn ar ddechrau'r 18fed Ganrif.
Er y cafodd y rhan helaeth o Bwll Du ei ddymchwel ym 1963 gyda sylfeini ac olion crasu yn dangos eu ehangder, yr unig adeiladau eraill a saif yw tafarn y Lamb and Fox a Neuadd Lesiant y Glowyr, sydd bellach yn Ganolfan Antur Pwll Du a oedd yn dyst i gyfraniadau’r glowyr a aeth ati i’w hadeiladu drwy gan ddefnyddio arian a gymerwyd o’u cyflogau heb yr un geiniog gan ffynonellau allanol