Lleolir gwesty’r Kings Head yng nghanol y Fenni, o fewn pellter cerdded hawdd i’r gorsafoedd bws a thrên.
Mae ein 14 o ystafelloedd en-suite wedi eu hailwampio i safon uchel, ac mae ganddynt oll deledu sgrin fflat, mynediad diwifr i’r rhyngrwyd a chyfleusterau te/coffi.
Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn cynnig detholiad da o gwrw, teledu sgrin fawr ac adloniant fyw ar nos Wener.
Mae ein bwyty (Venue 59) yn cynnig prydau bwyd blasus bob dydd mewn awyrgylch gyfeillgar a braf. Mae ein cinio dydd Sul yn enwog fel y gorau yn y dref, ac argymhellir eich bod yn trefnu bwrdd ymlaen llaw.