Gwesty Moethus â Bwyty ym Mlaenafon De Cymru
Cyfleusterau
Gan uno arddull twt, cyfoes gyda moethusrwydd clasurol, y Lion Hotel yw'r unig westy ym Mlaenafon. Mae ei 12 o ystafelloedd i gyd yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite neu gawod, ac ystod eang o gyfleusterau i wneud eich arhosiad mor gyfforddus a phleserus â phosibl.
Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eich bod yn mwynhau eich arhosiad, a dyna pam yr ydym yn darparu mynediad i chi i amrywiaeth o driniaethau moethus ar gyfer llu o achlysuron, o seibiannau ymlacio i benwythnosau parti plu moethus.
Ystafelloedd
Mae pob ystafell yn cynnig dewis o gyfleusterau yn cynnwys teledu Freeview, sgrin gwastad a chwaraewr DVD, desg, peiriant sychu gwallt, cyfleusterau te a choffi, cloc larwm, gynau llofft, cyfleusterau smwddio, pethau ymolchi am ddim, ffôn, gwres poeth ac oer gyda chymorth gwyntyll a chysylltiad di-wifr. Mae yna hefyd ddewis o obenyddion a chynfasau cotwm yr Aifft gyda chwiltiau 13.5 tog. Mae pob ystafell yn cynnwys naill ai gawod neu fath en-suite, a, fel ymhob ystafell arall yn y Lion Hotel, ni chaniateir ysmygu ynddynt.