Dysgu

Daeth tirwedd ddiwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd ym mis Rhagfyr 2000. Mae'n dirwedd a ffurfiwyd gan law dyn ac mae'n dyddio o ddyddiau cynnar y Chwyldro Diwydiannol - cyfnod pwysig yn esblygiad dyn, pan oedd diwydiannau haearn a glo yn Ne Cymru o bwysigrwydd byd-eang.

Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn lle pwysig yn nhermau astudio'r Chwyldro Diwydiannol ac mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer ysgolion sy'n astudio newidiadau ym mywydau bob dydd y bobl yn y 19eg ganrif, a newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a'r byd ehangach rhwng 1760 ac 1914. Mae hefyd yn astudiaeth achos ardderchog i fyfyrwyr sy'n astudio dirywiad trefol ac adfywio economaidd.

Erbyn hyn mae Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn ymffrostio mewn tri atyniad i ymwelwyr sy'n cynnig gwasanaethau addysgol pwrpasol, llawn amser:

  • Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
  • Gwaith Haearn Blaenafon
  • Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi ei lleoli yn hen ysgol Sant Pedr a sefydlwyd ym 1816 i ddarparu addysg i blant y gweithwyr haearn. Erbyn hyn mae’n rhoi trosolwg o Safle Treftadaeth y Byd ac mae’n cynnig gweithdai addysgol i bob grŵp oedran, a hynny drwy ganolbwyntio ar fywydau pobl leol o gyfnod cynnar y Celtiaid i’r cyfnod modern. Y mae hefyd yn fan cychwyn i nifer o weithgareddau awyr agored.

Mae Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru yn cynnig teithiau tywys dan ddaear yng nghwmni cyn-lowyr. Mae'r baddondai pen pwll sydd wedi eu hadfer erbyn hyn yn cynnwys arddangosiadau ac arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n galluogi ymwelwyr i ddysgu am hanes cloddio am lo, a'r bobl oedd yn byw ac yn gweithio yng nghymunedau glofaol yng Nghymru.

Gwaith Haearn Blaenafon yw’r nodwedd hanesyddol fwyaf arwyddocaol ar Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Heddiw gallwch weld olion helaeth y ffwrneisi chwyth, tai bwrw a'r twr cydbwyso dŵr eiconig, a chael cipolwg diddorol ar hanes cymdeithasol y Chwyldro Diwydiannol yn siop 'drwco' y cwmni, bythynnod gweithwyr o'r 19eg ganrif sydd bellwch wedi eu hail-greu, a'r tai cast sydd wedi eu dehongli o'r newydd.

Cynigir ystod o gyrsiau sy'n cwmpasu hanes lleol, archaeoleg a'r amgylchedd naturiol i oedolion sy'n ddysgwyr. Trwy ein rhaglen i barcmyn gwirfoddol, gall oedolion hefyd feithrin sgiliau newydd a manteisio ar gyfleoedd hyfforddi.

Mae yna ystod o atyniadau eraill ledled Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon sy’n croesawu ymweliadau addysgol, yn cynnwys:

  • Rheilffordd Blaenafon a Phont-y-pŵl
  • Amgueddfa Gymunedol Blaenafon ac Amgueddfa Cordell
  • Tirwedd Blaenafon
  • Llynnoedd y Garn
  • Pwll y Cipar
  • Camlas Mynwy ac Aberhonddu